04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cantorion ifanc Castell-nedd Port Talbot yn codi lleisiau i godi arian ar gyfer Wcráin

MAE cantorion ifanc o ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn serennu mewn fideo o’u fersiwn ysbrydoledig o’r gân You’re the Voice a ganwyd yn enwog gan John Farnham.

Recordiwyd y fersiwn deimladwy hon gan Wasanaeth Cerdd NPT Music a disgyblion o ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe er mwyn codi arian ar gyfer cymorth dyngarol i Wcráin.

Gyrrwyd y prosiect yn ei flaen gan Kirstie Roberts, cantores ac athrawes canu sy’n gweithio i Wasanaeth Cerdd NPT Music, ynghyd â’i chydweithwyr.

Meddai hi:

“Ar ôl clywed fod Rwsia wedi ymosod ar Wcráin, ac yn teimlo’n rhwystredig a di-werth am fod angen gwneud mwy, ro’n i eisiau codi arian i’w anfon at y teuluoedd a’r plant oedd yn ymdrechu mor galed i oroesi dan fygythiad parhaus, ond doedd gen i ddim syniad ble i ddechrau!

“Felly, er nad oedden ni wedi canu gyda’n gilydd am ddwy flynedd oherwydd pandemig Covid, fe gasglon ni rai o’n cantorion ifanc dawnus ac ysbrydoledig o ysgolion lleol at ei gilydd, ar ôl penderfynu y gallai pob un ohonom helpu drwy godi llais, codi calon a chodi arian i bobl Wcráin.

“Mewn prin dair wythnos a hanner, bu’n rhaid i 60 canwr, chwe offerynnwr llinynnau a band pedwar darn ddysgu’u rhannau cyn dod ynghyd gyda dyn camera a pheiriannydd sain i berfformio’r gân am y tro cyntaf yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe.

“Dim ond un cyfle oedd gan y tîm cyfan i berfformio You’re the Voice a’i gael yn iawn, ac fe ganodd ein plant o Gymry o’u calon dros blant Wcráin. Gwyliwch y fideo anhygoel hwn a’i rhannu mor eang â phosib os gwelwch yn dda. Fe roddodd y plant hyn o’u hamser, eu hangerdd a phopeth oedd ganddynt. Os gallwch roi ychydig o amser ac arian i helpu, byddai pob un ohonom mor ddiolchgar… fel y byddai plant Wcráin hefyd.

“Dwi wrth fy modd o allu rhannu dolen i’n tudalen GoFundMe a’r fideo ar YouTube o’n cantorion anhygoel o Cerdd NPT Music Castell-nedd Port Talbot, sy’n sicr o’ch ysbrydoli, yn codi’u llais, codi calon a chodi arian i blant Wcráin.”

Trefnwyd y gân ar gyfer côr gan Mark De-Lisser ac arweiniwyd perfformiad Côr Gwasanaeth Cerdd NPT Music gan Kirstie Roberts

Yr unawdwyr oedd Tom Meo Ford, Moli Edwards, Emily Rees, Sophie Kneath, Holly Oakwell Jenkins, Alex Stockton a Bethan Nicholas Thomas. Llinynnau – Sharon Williams, Caroline Nicholas Thomas, Imogen Kent, Amy Marston, Laura Cotrell a Mia Verallo. Roedd y band yn cynnwys Luke Evans, Andrew Coughlan, Ray Dizon a Luke Lockyer. Trefnwyd y llinynnau gan Luke Lockyer.

Recordiwyd y gân a’i chynhyrchu gan Luke Evans a gwnaed y ffilmio a’r golygu gan Christian Reason. Rhoddwyd y blodau haul ar gyfer y recordiad gan y siop flodau o Gastell-nedd Stella Blooms. Diolch o galon i staff Cerdd NPT Music Service a disgyblion a staff Ysgol Gymunedol Cwmtawe, Ysgol Llangatwg, Ysgol Dŵr-y-felin, Ysgol Cwm Brombil, Ysgol Gyfun St Joseph, Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur a Choleg Castell-nedd

%d bloggers like this: