04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Capel hanesyddol Aberfan cael ei ddymchwel yn rhannol ar frys er mwyn diogelu’r cyhoedd

DYFARNWYD bod Capel Aberfan yn ‘fygythiad enbyd i’r cyhoedd’ a bydd yn cael ei ddymchwel yn rhannol yr wythnos nesaf.

Yn 2015 difrodwyd y capel mewn ymosodiad o losgi bwriadol a bu’n adfail ers hynny. Bryd hynny, dywedodd Darren Roberts, Cynghorydd Ynys Owen: “Mae hyn yn ddifrodus iawn i’r gymuned gan fod gymaint o hanes i’r capel” ac ychwanegodd y byddai’r adeilad yn cael ei “ddiberfeddu’n llwyr”.

Cafwyd sawl ymgais aflwyddiannus gan y Cyngor i gysylltu â’r perchnogion preifat. Mae tu blaen yr adeilad yn crymu a gwyro’n beryglus ac mae perygl y bydd yr adeilad yn dymchwel. Felly, mae’r gwaith argyfwng hwn yn angenrheidiol i sicrhau nad yw’r strwythur yn peri risg i unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n defnyddio’r llwybr troed a’r ffordd brysur sydd yn union gyfagos, nac i breswylwyr yr eiddo cyfagos.

Oherwydd bod arwyddocâd hanesyddol i’r capel, dim ond llawr cyntaf y strwythur gwreiddiol fydd yn cael ei dynnu oddi yno i’w wneud yn ddiogel, a chaiff y meini addurn eu cadw rhag ofn y bydd unrhyw gynlluniau yn y dyfodol i adfer yr adeilad.

Caiff y gwaith ei gyflawni gan y contractwr ‘Aberdare Demolition’ o ddydd Mawrth 18 Mai 2021 a disgwylir iddo bara am bythefnos. Cedwir unrhyw aflonyddu i breswylwyr a’r cyhoedd i’r lefel isaf.

Bydd goleuadau traffig wedi eu gosod yn eu lle ar ochr capel Heol Aberfan o 9:30am – 2:30pm ddydd Mawrth 18 i ddydd Iau 20 Mai tra bo sgaffaldau yn cael eu codi, gyda’r posibilrwydd ohonynt yn cael eu cyflwyno eto ar ddiwedd y gwaith tra bo’r sgaffaldau yn cael eu tynnu i lawr.

Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, Aelod Portffolio dros Wasanaethau Cymdogol: “Ein prif flaenoriaeth yw diogelwch y cyhoedd ac mae’r gwaith hwn yn hanfodol i gefnogi hynny.

“Mae’r peirianwyr wedi bod yn monitro’r strwythur yn agos ac yn anffodus nid oes unrhyw opsiwn arall ond am gael gwared ar lawr cyntaf yr adeilad.

“Bydd y sawl sy’n gweithio ar ddymchwel y capel yn sicrhau nad yw gweddill yr adeilad yn cael ei ddifrodi ymhellach rhag ofn bydd gwaith adfer yn digwydd yn y dyfodol.”

%d bloggers like this: