04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Carcharu dyn am geisio hawlio grant Covid £25k drwy dwyll

CAFODD dyn o Gastell-nedd ddedfryd o garchar yn gyfwerth â 24 mis dan glo yn Llys y Goron Abertawe mewn cyswllt â chais twyllodrus i hawlio grant Covid o £25,000 oedd i fod i helpu busnesau i gadw’u pennau uwch y dŵr yn ystod y cyfnod clo.

Roedd Shaun Ceri James, 28, o Gardners Lane, Gastell-nedd, eisoes wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad dan y Ddeddf Dwyll.

Dedfrydodd ei Anrhydedd y Barnwr Walters ef i 15 mis o garchar yn wreiddiol, ond roedd y drosedd wedi digwydd ar adeg pan oedd James eisoes dan orchymyn dedfryd ohiriedig o fis Mawrth 2019, am ddedfrydau blaenorol o fasnachu anonest.

Fe wnaeth y Barnwr ailweithredu’n rhannol y ddedfryd ohiriedig honno, gan orchymyn i James dreulio cyfnod pellach, olynol o 9 mis yn y carchar, gan arwain at gyfanswm o ddedfryd o 24 mis dan glo i ddechrau ar unwaith.

Roedd James wedi darparu anfonebau gwerthu ffug ar gyfer ceir a les twyllodrus ar gyfer eiddo ym Mhort Talbot er mwyn ceisio hawlio Grant Covid Awdurdod Lleol o £25,000.  Honnodd ei fod wedi sefydlu busnes gwerthu ceir allan o ystafell arddangos ym mis Chwefror 2020, ond roedd y fangre’n wag bryd hynny, ac ni chafodd ei phrynu gan y perchennog newydd tan fis Ebrill y flwyddyn honno.

Yn ôl Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Ceri Morris:

“Dylai’r ddedfryd hon fod yn rhybudd i eraill sy’n mynd ati’n fwriadol i geisio twyllo aelodau’r cyhoedd neu’r Awdurdod y byddan nhw’n cael eu herlyn.

“Gosodwyd y grantiau hyn ar waith er mwyn sicrhau fod busnesau dilys yn gallu goroesi drwy argyfwng cenedlaethol. Roedd hawliau ffug yn rhoi pwysau ychwanegol ar y bobl oedd yn gweinyddu’r hawliadau hyn gan ymestyn y broses i fasnachwyr cyfreithlon. Bydd costau hawliadau o’r fath yn cael eu teimlo gan ddefnyddwyr am flynyddoedd i ddod.

“Mae’r canlyniad hwn yn dyst i waith caled swyddogion Safonau Masnach y Cyngor ac i’n hymrwymiad i ddiogelu iechyd, diogelwch a llesiant economaidd preswylwyr Castell-nedd Port Talbot.”

%d bloggers like this: