Mae pecyn cymorth a chanllaw newydd wedi cael eu lansio i gefnogi cyflogwyr, staff, grwpiau a sefydliadau lleol i sefydlu caredigrwydd yn y gweithle.
Fel rhan o’r ymgyrch ranbarthol Cysylltu â Charedigrwydd, mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn lansio modiwl e-ddysgu i roi arweiniad i bobl ynghylch chwe cham syml i sefydlu caredigrwydd yn eu gweithle ac ennill bathodyn i ddangos eu hymroddiad.
Mae’n cynnwys syniadau ar gyfer rhannu esiamplau o garedigrwydd gyda chalendr o ddigwyddiadau, cynlluniau gwobrwyo a mesurau ymarferol i gyflogwyr megis trefniadau gweithio hyblyg, hyrwyddo llesiant a rhoi cymorth i bobl â chyfrifoldebau gofalu.
Dengys tystiolaeth fod rhoi neu dderbyn caredigrwydd yn cael effeithiau cadarnhaol yn gorfforol ac yn feddyliol, gan helpu i ddod â phobl ynghyd, byw bywydau hirach a hapusach, a phan fydd eraill yn garedig, rydym yn fwy tebygol o fod yn garedig â ni’n hunain.
Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, sy’n cynnwys Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn cydnabod bod llawer o garedigrwydd ysbrydoledig eisoes mewn cymunedau ac mae’n gobeithio y bydd pobl yn ymestyn hyn ymhellach trwy ledaenu’r gair am garedigrwydd yn y gweithle.
Ymhlith y manteision y mae gwell perfformiad yn y swydd, llesiant a llai o absenoldeb salwch ymhlith eraill.
Dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd y bartneriaeth ranbarthol: “Rwy’n falch iawn fod y gwaith hwn yn cael ei wneud i helpu i ddod â manteision caredigrwydd i’r amlwg yn y gweithle, boed hynny’n lle y mae pobl yn mynd iddo neu, i nifer ohonom ar hyn o bryd, yn amgylchedd rydym yn cysylltu ag ef yn rhithwir. Rydym yn disgwyl, nid yn unig i weld gwell allbynnau gan ein staff ond hefyd, yn bwysig iawn, gwell ymdeimlad o lesiant sydd, fel y gwyddom, yn hanfodol i unigolion a thimau. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r ymgyrch hon ac yn edrych ymlaen at weld canlyniadau cadarnhaol.”
Gall pobl fynychu’r sesiwn e-ddysgu am ddim drwy fynd i www.cysylltuacharedigrwydd.cymru/gweithle/. Mae pobl hefyd yn cael eu hannog i gysylltu a rhannu syniadau a mentrau trwy’r cyfryngau cymdeithasol – dilynwch www.facebook.com/ConnectToKindnessWestWales neu ar Twitter #ConnectToKindness
Am fwy o fanylion ar Cysylltu â Charedigrwydd, cysylltwch â 01545 574200 neu porthygymuned@ceredigion.gov.uk.
More Stories
Police appeal for information following altercation at Boathouse in Saundersfoot
White Collar Boxing night raises over £1,000 for children’s nursing services
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant