03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Castell-nedd Port Talbot yw’r awdurdod lleol cyntaf i lofnodi addewid ‘Mae Fy Mhethau’n Cyfri’ i blant mewn gofal

CASTELL-nedd Port Talbot yw’r awdurdod lleol cyntaf i lofnodi addewid i sicrhau fod plant a phobl ifanc sy’n cael profiad o’r system ofal yn gweld eu heiddo gwerthfawr yn cael ei drin ag urddas, gofal a pharch pryd bynnag y byddan nhw’n symud i gartref newydd.

Mae ymgyrch ‘Mae Fy Mhethau’n Cyfri’, a grëwyd gan yr elusen hawliau plant o bwys NYAS (Gwasanaeth Eiriol Ieuenctid Cenedlaethol), yn galw ar i bob awdurdod lleol ledled Cymru a Lloegr lofnodi’r addewid sy’n amlinellu pum addewid, wrth symud plant a phobl ifanc mewn gofal er mwyn iddyn nhw beidio â gweld eu heiddo’n cael ei symud mewn bagiau biniau. Bydd awdurdodau lleol sy’ ymuno â’r ymgyrch yn gallu derbyn bagiau teithio y gellir eu pacio i ffwrdd yn rhad ac am ddim gan un o brif gynhyrchwyr bagiau’r DU, Madlug i’w rhoi i blant mewn gofal pan fyddan nhw’n symud.

Mae NYAS yn datgelu yn adroddiad eu hymgyrch fod

  • 4 o bob 5 plentyn a pherson ifanc mewn gofal yn gorfod symud eu heiddo mewn sachau biniau
  • 3 ymhob 5  plentyn a pherson ifanc mewn gofal yn colli eiddo neu’n gweld yr eiddo hwnnw’n cael ei niweidio wrth iddyn nhw symud.

Canfu ymchwil yr adroddiad hefyd, o ganlyniad i gais Rhyddid Gwybodaeth, mai dim ond 1 o bob 3 Awdurdod Lleol sy’n meddu ar ganllawiau ysgrifenedig ffurfiol i gefnogi staff wrth iddyn nhw symud plant a phobl ifanc mewn gofal.

Disgrifiodd un gadawr gofal, Daniel, sy’n 18, yr arfer o symud ei eiddo mewn bagiau duon fel ‘annynol’ a ‘bychanol’.

Bob 20 munud, bydd plentyn mewn gofal yn symud tŷ yng Nghymru neu Loegr, sy’n cyfateb i dros 26,000 o blant yn Lloegr a 2,200 o blant yng Nghymru. Bydd NYAS yn derbyn 10,000 cyfeiriad bob blwyddyn i eiriol dros blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a chanfu’r elusen fod symud yn ystod cyfnod mewn gofal yn gallu achosi problemau difrifol i lawer o bobl sy’n cysylltu â nhw.

Mae adroddiad yr ymgyrch yn gofyn ar i awdurdodau lleol ymrwymo i gefnogi’r pum addewid isod:

  1. Byddwn ni’n eich helpu i gadw eich eiddo mwyaf gwerthfawr yn ddiogel gyda chi yn ystod symud ac yn addo na fyddan nhw’n cael eu symud mewn sachau biniau.
  2. Byddwn ni’n darparu canllawiau ysgrifenedig ar eich cyfer chi ac unrhyw un sy’n eich helpu i symud, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.
  3. Fyddwn ni byth yn symud nac yn taflu eich eiddo i ffwrdd heb eich caniatâd a byddwn ni bob amser yn parchu eich eiddo personol.
  4. Byddwn ni’n eich cefnogi chi i wneud cwyn os cafodd unrhyw ddarn o’ch eiddo ei golli neu’i niweidio yn ystod y broses o symud.
  5. Byddwn ni’n cyfathrebu gyda chi am eich symudiad ac yn gofyn i chi sut aeth y broses o symud.

Yn ôl y Cynghorydd Alan Lockyer, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant: “Mae symud i mewn i ofal yn gallu bod yn gyfnod anodd yn aml i blant a phobl ifanc sy’n gorfod profi’r fath beth.

“Drwy lofnodi’r addewid hwn, rydyn ni’n gwneud addewid i sicrhau fod unrhyw eiddo personol y byddan nhw’n symud gyda nhw yn cael gofal cywir a’u trin â pharch.

“Rydyn ni’n teimlo mai dyma’r lleiaf y gallwn ni ei wneud er mwyn hwyluso’r symudiad i mewn i ofal a’i wneud mor llyfn â phosib.”

Meddai Rita Waters, Prif Weithredwr Grŵp NYAS,:

“Yn rhy fynych i blant mewn gofal, byddan nhw’n cael profiad negyddol wrth symud o un cartref i un arall; dyw hi ddim yn ddigon da, a rhaid i bethau newid. Dyna pam fod ymgyrch NYAS ‘Mae Fy Mhethau’n Cyfri’ yn gofyn i awdurdodau lleol helpu i wneud y profiad o symud gystal ag y gall fod ar gyfer plant a phobl ifanc.”

Ychwanegodd Dave Linton, sefydlydd a Phrif Weithredwr Madlug, sy’n rhoi bag i blant sy’n profi gofal ar werthiant pob un o’u cynhyrchion,:

“Dwi mor falch o bartneru gyda NYAS fel rhan o ymgyrch ‘Mae Fy Mhethau’n Cyfri’ oherwydd gallwn ni godi ymwybyddiaeth o’r broblem bagiau biniau, herio awdurdodau lleol i drin eu plant anhygoel â gwerth a pharch, ynghyd â darparu ateb ymarferol i’w galluogi i weithredu ar eu hymrwymiad.”

%d bloggers like this: