04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cymraeg

MAE chwe uned ddiwydiannol newydd wedi'u cwblhau fel rhan o fuddsoddiad o £2.5 miliwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin yng Nglanaman. Mae'r hen weithdai gwag yn Heol y Tabernacl wedi cael eu trawsnewid ac yn cael eu defnyddio unwaith eto fel rhan o ail gam ar ôl i'r cyngor neilltuo'r arian o'i Raglen Gwaith Cyfalaf Pum Mlynedd yn 2017. Cafodd cam un ei gwblhau yn 2018 gydag 13 o unedau yn cael eu trawsnewid a'u llenwi gyda busnesau sy'n amrywio o fusnesau ffensio a phren a gweithgynhyrchu offer pysgota, i fusnesau adfer ac atgyweirio dodrefn, cyflenwi stofiau llosgi coed ac offer arlwyo a hufen iâ. Mae'r gweithdai newydd sydd wedi'u hadeiladu o ddur ar gyfer busnesau, defnydd diwydiannol cyffredinol, storio neu ddosbarthu, ac ar ôl eu cwblhau, disgwylir y byddant yn gallu cynnig lleoliad i chwech o fusnesau bach gyda 15-20 o swyddi ychwanegol. Mae ganddynt gyfleusterau toiled a chegin, drysau rholio, a phaneli solar ffotofoltäig wedi'u gosod ar y to, ac maent yn amrywio o 48 metr sgwâr (tua 500 troedfedd sgwâr) i 94 metr sgwâr (tua 1000 troedfedd sgwâr). Maent yn cael eu cynnig ar delerau prydles misol hyblyg, wedi'u hanelu at ddefnyddiau B1, B2 a B8 a'u bwriad yw helpu i ateb y galw mawr sydd yn y sir ar hyn o bryd am fannau diwydiannol....