12/06/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cau busnes cludfwyd yn Aberaeron am anwybyddu cyfyngiadau’r coronafeirws

MAE Hysbysiad Cau Mangre wedi cael ei roi i Paradise Pizza, Regent Street, Aberaeron oherwydd diffyg cydymffurfiaeth, dro ar ôl tro, â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.

Rhoddwyd hysbysiad gwella mangre i’r busnes ar 15 Ionawr 2021. Roedd yn ofynnol i’r busnes gymryd camau rhesymol i atal lledaeniad y coronafeirws, gan gynnwys sicrhau bod staff yn defnyddio cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb. Fodd bynnag, gwelodd swyddogion nad oedd y staff yn gwisgo gorchuddion wyneb ar sawl achlysur gan fynd yn erbyn eu cyngor.

Mae arolygiadau monitro wedi dangos fod y rhan fwyaf o fusnesau manwerthu Ceredigion yn cydymffurfio â’r cyfyngiadau yn ystod y pandemig. Bydd Tîm Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i gymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw fusnes na fydd yn cydymffurfio â rheoliadau’r coronafeirws. Tra bydd busnesau nad ydynt yn cydymffurfio yn cael cyngor a chanllawiau fel arfer, bydd achosion difrifol neu gyson o dorri’r rheolau yn arwain at roi pwerau cau ar waith, hysbysiadau cosb benodedig neu erlyniad.

Bydd yn rhaid i’r busnes cludfwyd hwn barhau ynghau am 28 diwrnod neu hyd nes y bydd swyddogion Diogelu’r Cyhoedd yn fodlon eu bod wedi mynd i’r afael â’r diffyg cydymffurfiaeth honedig.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i gyhoeddi hysbysiadau gwella a chau mangreoedd.

Gellir dod o hyd i’r hysbysiad cau llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion o dan Hysbysiadau Gwella a Chau Mangreoedd.

%d bloggers like this: