03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cefnogaeth cam-drin domestig 24/7 Cyngor Abertawe ystod cyfnod atal byr

MAE cefnogaeth yn parhau i fod ar waith 24/7 yn Abertawe i bobl sy’n dioddef cam-drin domestig neu sydd mewn perygl o’i ddioddef.

Mae sgwrsfot uwch-dechnoleg Cyngor Abertawe ar gael o hyd i ddarparu cyngor i bobl a’u cyfeirio at gymorth fel rhan o’i wasanaethau cam-drin domestig.

Mae’n ategu gwaith staff Canolfan Cam-drin Domestig y cyngor sydd wedi parhau i ddarparu cyngor ar ddiogelwch a chefnogaeth emosiynol i’r rheini y mae arnynt ei hangen yn ystod argyfwng Coronafeirws.

Fel rhan o ymgyrch Dydych Chi Ddim Ar Eich Pen Eich Hun, a lansiwyd i gefnogi pobl sydd mewn perygl o gam-drin domestig yn ystod y pandemig, mae’r sgwrsfot yn fyw ar wefan y gwasanaeth yn: https://www.abertawe.gov.uk/sgwrsfot

Mae’r sgwrsfot yn gofyn cyfres o gwestiynau i’r defnyddiwr i’w cyfeirio at y gefnogaeth fwyaf priodol.

Mae defnyddwyr yn aros yn ddienw ac mae’r gwasanaeth yn gwbl gyfrinachol.

Meddai’r Cynghorydd Louise Gibbard, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, “Yn ystod y pandemig rydym wedi cydnabod nad yw pob cartref yn lle diogel ac rydym wedi gweithio i gefnogi pobl sy’n dioddef cam-drin domestig neu sydd mewn perygl o’i ddioddef Rydym yn annog pobl sy’n teimlo’u bod nhw mewn perygl neu sy’n adnabod rhywun y gall fod angen help arnynt i ddefnyddio’r sgwrsfot i ddod o hyd i gyngor ar adeg sy’n gyfleus iddynt, 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

“Mae ein Canolfan Cam-drin Domestig a’n Ymgynghorwyr Trais yn y Cartref Annibynnol mor ymroddedig ag erioed i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i aelwydydd lle mae cam-drin domestig yn broblem, ac rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol arbenigol i sicrhau ymagwedd gydlynol ledled Abertawe ac i roi’r cyfle gorau i breswylwyr gael gafael ar y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn ystod cyfnod mor anodd. Rydym yn gwybod nad yw gofyn am gymorth yn hawdd i rai pobl.

“Mae’r sgwrsfot yn ffordd arall o gynnig gwasanaeth rhyngweithiol ac effeithlon i’r rheini sy’n poeni am eu sefyllfa’u hunain neu sy’n poeni am rywun arall.”

%d bloggers like this: