04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cefnogwr brwd o dechnegau ffermio adfywiol yn ymweld â gwledydd Ewrop drwy raglen Cyswllt Ffermio i ddatblygu ei wybodaeth

MA”R ffermwr a’r cyn-gynhyrchydd teledu, Dr Matt Swarbrick, wedi ymweld â Sweden, Ffrainc, Lloegr ac Awstria drwy raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i ddysgu mwy a datblygu ei wybodaeth am ffermio adfywiol, gan ei fod yn gefnogol iawn o’r dechneg ac yn credu ei fod yn gallu cynhyrchu mwy o fwyd o ansawdd uwch.

Mae Dr Matt Swarbrick yn ffermio gan ddefnyddio arferion sy’n cynyddu bioamrywiaeth ac yn cyfoethogi’r pridd, ac mae’n dweud bod hyd yn oed ardaloedd o dir fferm sy’n cael eu hystyried yn dir ymylol yn gallu cynhyrchu bwyd mewn modd proffidiol.

Dechreuodd Dr Matt Swarbrick ffermio yn 2012 ar fferm 30 hectar Henbant Bach ger Caernarfon.

Mae ef a’i wraig, Jenny, wedi mabwysiadu arferion amaethyddiaeth adfywiol, sef agwedd cadwriaethol ac adfywiol tuag at systemau bwyd a ffermio, gan sefydlu diadelloedd defaid a heidiau o ieir dodwy, menter laeth micro a gardd farchnad.

Maen nhw bellach yn barod i ddatblygu’r fenter.

Er mwyn casglu gwybodaeth ar gyfer eu cynlluniau at y dyfodol, llwyddodd Matt i dderbyn cyllid gan Raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i ymweld â ffermydd paramaethu ar raddfa fechan sy’n cynhyrchu bwyd, yn ogystal ag elw a buddion i’r amgylchedd.

“Daeth rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio ar yr amser perffaith i ni er mwyn profi ein cynlluniau ac ymweld â ffermydd sy’n gwneud pethau tebyg o gwmpas Ewrop,” meddai Matt.

Bu Matt yn ymweld â Sweden, Ffrainc a Lloegr, yn ogystal â Kerameterhof, un o ffermydd paramaethu hynaf Ewrop yn Awstria.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth 2019-20 ar agor ta 30 Tachwedd 2019. Mae cyllid o hyd at £2,500 ar gael i dalu costau teithio, llety a chyngor arbenigol.

Set o egwyddorion dylunio a moeseg ar gyfer systemau dynol sy’n defnyddio’r patrymau a’r nodweddion cadarn sydd i’w cael mewn ecosystemau naturiol yw Paramaethu.

“Cefais gadarnhâd drwy ymweld â’r Kerameterhof fod defnyddio paramaethu ar raddfa fferm yn gallu bod yn llwyddiannus, a bod modd gwneud hynny mewn ffordd sy’n creu ecosystem fferm gyfan sy’n llawn amrywiaeth a bywyd,” meddai Matt.

“Mae wedi gwneud i mi ddeall bod y pethau yma’n werth eu gwneud; yn wir, dydw i ddim yn credu bod ffordd arall y gallwn weithio.”

Mae’r astudiaeth wedi atgyfnerthu ei gred mai amaeth yw’r adnodd mwyaf pwerus sydd gan y gymdeithas er mwyn gwneud newidiadau positif yn amgylcheddol, ac wrth gyflwyno dulliau amaeth-goedwigaeth ac amaeth-ecolegol, gall ffermwyr gynhyrchu mwy o fwydydd iach a mwy o elw.

Yn ôl Matt, mae’n bosibl cael ffermydd sy’n datblygu o ran gwytnwch.

“Credaf ein bod ni (y diwydiant amaeth) yn rhy brysur yn ceisio gwneud ffermio’n llai niweidiol ac yn fwy cynaliadwy.

“Wrth wneud hyn, rydym ni’n methu’r pwynt yn llwyr fod cynhyrchu bwyd yn gallu bod yn rhywbeth positif, mae’n gallu arwain at ecosystemau cryfach a chyfoethocach, creu mwy o swyddi a chynhyrchu bwyd iachach, ac felly, pobl iachach.”

Mae’n credu mai dychymyg y ffermwr yw’r unig beth sy’n gallu cyfyngu ar gynhyrchiant y fferm.

“Mae hyd yn oed ardaloedd yr ydym ni’n eu hystyried yn ymylol yn gallu cynhyrchu bwyd yn broffidiol.”

Mae cynlluniau ar gyfer Henbant wedi symud ymlaen ers i Matt ddychwelyd o’r Rhaglen Gyfnewid.

“Mae edrych dros ddyluniad y ffermydd gyda’r unigolion hyn wedi cadarnhau rhai o’r pethau yr oeddem yn awyddus i’w gwneud, wedi herio agweddau eraill ac wedi cynnig syniadau newydd yn ogystal,” meddai.

“Mae wedi cadarnhau ein syniadau ein bod ni’n awyddus i ddarparu mwy o gyfleoedd cyflogaeth ar y fferm ac mae’n glir y byddai modd i ni ddarparu o leiaf dwy swydd lawn amser, tymhorol o bosibl, yn y maes cynhyrchu bwyd.”

Bydd y teulu Swarbrick yn datblygu mwy o amaeth goedwigaeth a choed-borfeydd – cyfuniad o goed a phorfeydd – ar fferm Henbant, ac ehangu’r ardd farchnad lle nad ydynt yn palu’r tir.

Byddant yn parhau i ddatblygu o’r busnes godro micro, i gadw chwe buwch erbyn 2020, ac i ddatblygu menter ieir dodwy ar y borfa, gan anelu at gadw 1,000 o ieir dodwy erbyn 2021.

Byddant hefyd yn gweithio gyda Joseph Holzer o Kerameterhof i ddatblygu eu llynnoedd yn systemau dyframaeth mwy cymhleth.

“Rydym ni eisoes wedi rhoi rhai o’i gynlluniau ar waith ac wedi cyflwyno rhywogaethau pysgod i’r llynnoedd,” meddai Matt.

Yn fwy na dim, mae Matt yn anelu at godi ymwybyddiaeth o’r cysyniad nad yw dyfodol ffermio yn golygu cyfyngu ar ei effaith ar yr amgylchedd. “Mae’n ymwneud â’r effaith bositif mae amaeth adfywiol yn gallu ei gael.”

Rydym ni eisiau clywed gennych chi os ydych chi’n awyddus i ddysgu am ffyrdd newydd a gwell o weithio yn y sectorau ffermio neu goedwigaeth, darganfod mwy am ddulliau gwahanol o reoli busnes, ehangu ar eich gwybodaeth, gallu technegol ac arbenigedd rheoli a darparu cyfleoedd datblygu newydd ar lefel bersonol ac ar lefel y busnes.

A fyddai diddordeb gennych chi i ymweld â ffermydd neu safleoedd coedwigaeth eraill o fewn yr UE a/neu groesawu rheolwr fferm neu goedwigaeth profiadol i ymweld â’ch daliad? Rhannu eich canfyddiadau yn dilyn eich profiad dysgu gyda’r diwydiant ehangach drwy Cyswllt Ffermio?

Os felly, ymgeisiwch ar gyfer Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio –  cyfle bythgofiadwy i ymweld â gwledydd eraill a datblygu gwybodaeth, gyda chyllid o hyd at £2,500 ar gael. Gallwch ymgeisio ar y wefan: www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu am ragor o fanylion, cysylltwch â Chanolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio: 08456 000 813.

Cofiwch – daw’r cyfnod ymgeisio i ben ar 30 Tachwedd 2019.

Cafod Matt ei recriwtio’n ddiweddar fel un o Fentoriaid Cyswllt Ffermio. Mae hyn yn caniatáu i ffermwyr eraill dderbyn sesiynau mentora gyda Matt, naill ai ar eu fferm eu hunain neu ar fferm Matt. Mae mentor yn gallu darparu barn ychwanegol; mae’n herio penderfyniadau ac yn datblygu syniadau newydd mewn awyrgylch anffurfiol llawn ymddiriedaeth. I ddewis mentor, ewch i wefan Cyswllt Ffermio.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

%d bloggers like this: