04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Ceisiadau ar gyfer cronfa pobl lawrydd ddiwylliannol ar agor

GALL gweithwyr llawrydd yn y sector diwylliannol sy’n parhau i wynebu heriau ariannol o ganlyniad i Covid-19, wneud cais am gyllid grant o ddydd Llun 17 Mai.

Bydd cymorth gan Gronfa Pobl Lawrydd Adfer Diwylliant Cymru ar gael i weithwyr proffesiynol llawrydd y mae gan eu gwaith ganlyniadau creadigol/diwylliannol uniongyrchol, sy’n gweithio yn y maes celfyddydol, diwydiannau creadigol, y celfyddydau a threftadaeth, digwyddiadau, neu ddiwylliant a threftadaeth. Mae gweithwyr llawrydd o’r diwydiannau priodasau a digwyddiadau hefyd yn gymwys i wneud cais yn y rownd hon.

Mae grant o £2,500 ar gael fesul unigolyn, i gefnogi gyda llif arian parod ar unwaith.

Bydd y rhai sy’n cael eu cyflogi’n rhan-amser ac sydd hefyd ag ymarfer creadigol proffesiynol llawrydd yn gallu gwneud cais ond fe’u cynghorir bod y grant wedi’i dargedu at weithwyr llawrydd sydd â’r angen mwyaf am gymorth. Bydd incwm yn cael ei ystyried fel rhan o’r asesiad.

Ni fyddwch yn gymwys:

Os ydych yn weithiwr llawrydd yn gweithio yn y sector chwaraeon; neu

Nid gweithwyr llawrydd sy’n gweithio mewn ffilm a theledu, gemau fideo, meddalwedd a diwydiannau adloniant digidol eraill yw’r rhai a fwriedir i dderbyn y cymorth hwn gan fod y marchnadoedd hynny bellach yn gweithredu ar lefelau arferol neu’n agos at fod yn normal. Fodd bynnag, efallai yr effeithir ar rai rolau penodol o hyd a lle gellir dangos bod yr effaith hon o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, derbynnir ceisiadau.

Mae’r cyllid hwn wedi’i greu’n arbennig ar gyfer is-sectorau creadigol a diwylliannol, a rolau sydd wedi cael eu gorfodi i roi’r gorau i weithio a/neu’n wynebu trafferthion ailgychwyn oherwydd dylanwad cyfyngiadau Covid-19. Ni ddylai’r rhai mewn rolau sydd wedi gallu parhau i weithio ar lefelau blaenorol neu debyg o weithgarwch heb gymorth, wneud cais.

Dylai’r rheiny sydd eisiau ymgeisio wirio a ydynt yn gymwys ar wefan Busnes Cymru (External link – Opens in a new tab or window). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynllun ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gofynnir i unigolion sy’n gymwys ar gyfer y grant ac sy’n awyddus i wneud cais lenwi’r ffurflen gais ar wefan y cyngor. Gall pob gweithiwr llawrydd cymwys wneud cais, gan gynnwys y rhai sydd wedi derbyn cymorth gan y cynllun hwn o’r blaen.

%d bloggers like this: