MAE trigolion yn ardaloedd Cefn Fforest a Choed Duon wedi cael eu gofyn i roi eu barn am gynigion i osod parc sglefrio newydd ar safle Maes y Sioe.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal ymgynghoriad am y cynigion fel rhan o’i raglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), a fydd yn buddsoddi tua £260 miliwn mewn cartrefi tenantiaid a’u cymunedau lleol.
Cafodd ymgynghoriad cychwynnol ei gynnal yn ystod mis Medi 2020. Bydd ymarfer mwy cynhwysfawr yn cael ei gynnal dros yr wythnosau nesaf i fesur barn trigolion. Bydd y Cyngor yn rhoi cyfle i drigolion lenwi arolwg yn electronig. Gall y rhai na allan nhw gwblhau’r arolwg ar-lein gysylltu â Lynne John, Swyddog Amgylcheddol, ar 01443 864002 neu drwy e-bostio johnl@caerffili.gov.uk
Hyd yn oed os yw trigolion wedi rhoi eu barn o’r blaen, mae’r Cyngor yn annog pobl i sicrhau eu bod nhw’n llenwi’r arolwg fel bod eu hadborth yn cael ei gynnwys.
Mae barnau’n cael eu ceisio ar gynigion i osod parc sglefrio concrit newydd ger y parc chwarae a’r gampfa awyr agored bresennol ar Faes y Sioe, Coed Duon, a fyddai’n gadarn ac yn ddiogel rhag fandaliaeth, fwy neu lai, yn ogystal â bod yn dawelach na’r dewis arall ar ffurf metel. Byddai’r dyluniadau’n debyg i nifer o rai eraill sy’n cael eu gosod, fel rhan o’r rhaglen SATC, mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol, a byddai’n cynnig lle diogel a hygyrch yn yr awyr agored i bobl ifanc ddefnyddio byrddau sglefrio, sgwteri a beiciau.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m