03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cerdyn adnabod newydd i ofalwyr ifanc

MAE cerdyn adnabod cenedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr ifanc wedi’i lansio yn Sir Gaerfyrddin i gydnabod eu cyfrifoldebau gofalu am aelod o’r teulu gartref.

Bydd y cerdyn adnabod yn rhoi ffordd gyflym i ofalwyr ifanc roi gwybod i athrawon, fferyllwyr a meddygon teulu, staff mewn archfarchnadoedd, a gwasanaethau cymunedol fel canolfannau hamdden a thrafnidiaeth leol, eu bod yn gofalu am rywun.

Gall Gofalwyr Ifanc ddangos y cerdyn i’w hathro/athrawes neu oedolyn arall i roi gwybod iddynt am y cyfrifoldebau ychwanegol sydd ganddynt gartref.

Mae’r cerdyn adnabod â llun ar gael i unrhyw un dan 18 oed sy’n gofalu am riant, brawd, chwaer, mam-gu neu dad-cu neu ffrind i’r teulu.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae Demi-Jo Phillips o Lanelli yn 16 oed ac yn brif ofalwr i’w mam.

Dywedodd:

“Rwy’n gofalu am fy mam sy’n gallu achosi straen ar adegau ac mae’n effeithio arnaf yn emosiynol. Dydw i ddim bob amser yn gallu gweld fy ffrindiau pan fydd mam yn cael diwrnod gwael. Bydd y cerdyn adnabod yn helpu gyda phethau fel mynd gyda mam i apwyntiadau meddygol.”

Cafodd y cerdyn cenedlaethol ei ddatblygu mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc y cyngor, Cyngor Ceredigion a Chyngor Sir Penfro ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gofal Croesffyrdd Gorllewin Cymru fel rhan o fenter gan Lywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr.

Ar hyn o bryd mae swyddogion y Cyngor yn gweithio gydag adrannau o fewn y cyngor i ystyried darparu manteision a gostyngiadau drwy’r cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc.

Mae cynlluniau hefyd ar waith i weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol a all gynnig gostyngiadau a manteision i ddeiliaid cerdyn.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Sir Caerfyrddin:

“Mae gofalwyr ifanc yn gwneud gwaith gwych a gall bywyd fod yn heriol iawn iddynt ar adegau. Bydd y cardiau hyn yn helpu i’w cefnogi gyda’u cyfrifoldebau gofalu ac yn eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau yn llawer mwy hwylus. Byddant hefyd yn helpu ysgolion i roi mesurau ar waith i’w cefnogi. Y gobaith hefyd yw y bydd y cerdyn yn rhoi’r hyder i ofalwyr ifanc ofyn am help neu ddealltwriaeth gan weithwyr proffesiynol fel athrawon, meddygon a fferyllwyr mewn ffordd ddiffwdan.”

Meddai Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Wasanaethau Cymdeithasol:

“Hoffwn ddiolch i’r holl ofalwyr ifanc a’r gofalwyr sy’n oedolion ifanc yng Nghymru am y gefnogaeth wych maen nhw’n ei rhoi i deulu a ffrindiau yn y cyfnod anodd hwn. Hyd yn oed cyn i’r pandemig ddechrau, roeddem yn gwybod bod gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc yn wynebu llawer o bwysau wrth ofalu am rywun. Mae’r 12 mis diwethaf wedi dangos i ni, yn anffodus, nad yw llawer o bobl yn gwybod sut i adnabod, helpu na chefnogi gofalwr ifanc.”

“Bydd y cerdyn adnabod cenedlaethol hwn yn rhoi ffordd gyflym i ofalwyr ifanc roi gwybod yn hwylus i’w hathrawon, staff archfarchnadoedd, fferyllfeydd neu eu meddygfa, eu bod yn gofalu am rywun. Bydd hefyd yn eu helpu i gael mynediad at eu hawliau o dan ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan gynnwys eu hawl i asesiad anghenion gofalwyr.”

Rwy’n falch ein bod yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol megis Sir Gaerfyrddin a’n partneriaid, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Gyda’n gilydd gallwn ni i gyd roi gwell cymorth a chydnabyddiaeth i ofalwyr ifanc ledled Cymru.”

%d bloggers like this: