Nid yw’r galw am gysylltedd cyflym a dibynadwy â’r Rhyngrwyd erioed wedi bod mor amlwg nag yn y misoedd diwethaf, gyda mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau ar-lein a mwy o bobl yn gweithio o gartref.

Yn sgil hynny, dewiswyd Ceredigion yn ardal beilot ar gyfer menter gan Lywodraeth y DU sy’n anelu at sicrhau mwy o fand eang ffeibr mewn ardaloedd gwledig.

Mae’r cynllun prawf yn rhoi cyfle i fusnesau a thrigolion gymryd camau i ddatrys eu problemau cysylltedd er mwyn sicrhau newidiadau cadarnhaol i’r economi a safon byw yn y sir.

Ar 27 Gorffennaf 2020, lansiodd Llywodraeth y DU gynllun peilot yn rhan o’i Gynllun Talebau Gigabit Gwledig, a fydd yn ei gwneud yn haws i drigolion a busnesau ddangos bod galw i osod band eang ffeibr drwy’r sir. Nod y cynllun peilot, o’r enw “Y Gronfa Uwchraddio Band Eang”, yw cefnogi busnesau, gweithwyr a chymunedau gwledig i fanteisio ar yr holl fuddion sy’n gysylltiedig â chysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy â’r Rhyngrwyd.

Gan gynnwys cynllun taliadau atodol Llywodraeth Cymru, mae trigolion yng Ngheredigion yn gymwys i hawlio hyd at £3,000 a gall busnesau bach a chanolig hawlio hyd at £7,000 i uwchraddio i fand eang gigabit, sy’n gallu lawrlwytho ar gyflymder o 1 gigabit (1,000 megabit) yr eiliad, ac sy’n llawer cyflymach na’r cyflymder presennol ar draws Ceredigion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i weithio gyda chyflenwyr masnachol a’r ddwy Lywodraeth i sicrhau gwell cysylltedd ar gyfer y Sir ac yn annog perchnogion busnes a thrigolion i ddod at ei gilydd er mwyn cynyddu cyfanswm yr arian y mae gan eu cymuned hawl iddo drwy gynllun peilot Llywodraeth y DU.

Ni fydd cofrestru yn unig yn sicrhau y bydd cysylltiad ffeibr yn cael ei osod yn dilyn hynny – ond po fwyaf o eiddo sy’n cofrestru, y mwyaf tebygol y bydd cyflenwyr masnachol yn cydnabod y galw ac yn manteisio ar y cyfle i osod band eang ffeibr yn yr ardal.

Dywedodd Matt Warman, Gweinidog dros Seilwaith Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Mae gwell cysylltiad band eang yn gwella bywydau pobl, ac mae’r llywodraeth yn ei gwneud yn haws i gymunedau gwledig yng Ngheredigion fanteisio ar fuddion cymdeithasol ac economaidd band eang gigabit-alluog. Drwy’r fenter hon, gall y rheini sy’n dioddef o Ryngrwyd araf dderbyn cyfraniad hael tuag at gostau cael cysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy â’r Rhyngrwyd yn eu cartrefi neu fusnesau. Rwy’n annog pobl i gofrestru i ddarganfod a ydynt yn gymwys am y cynllun hwn sy’n rhoi hwb i fand eang y genhedlaeth nesaf.”

Daw hyn wrth i ymchwil newydd ganfod y gall band eang dibynadwy chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gadw pobl mewn cysylltiad yn ystod Covid-19. Roedd bron i chwech ym mhob deg (58%) o drigolion Ceredigion a holwyd sy’n defnyddio band eang yn dweud bod y Rhyngrwyd wedi chwarae rhan bwysig wrth helpu i frwydro yn erbyn teimladau o unigedd neu unigrwydd yn ystod y cyfnod clo.

Roedd dwy ran o dair (67%) o’r ymatebwyr sy’n gweithio ac yn defnyddio band eang yn gweithio o gartref naill ai drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser yn ystod y cyfnod clo, ond roedd bron i hanner (46%) yn teimlo’n rhwystredig ar adegau oherwydd cysylltiad annibynadwy â’r Rhyngrwyd. Mae pedwar ym mhob deg (40%) yn honni y byddent yn gallu gwneud eu gwaith yn well pe bai ganddyn nhw gysylltiad cyflymach â’r Rhyngrwyd.

Dylai band eang gwell a mwy dibynadwy fod yn arbennig o ddefnyddiol yng Ngheredigion, lle dywedodd pedwar ym mhob deg (40%) bod ansawdd eu galwadau fideo wrth weithio o gartref yn ‘wael yn aml’ oherwydd eu cysylltiad â’r Rhyngrwyd ac mae 31% wedi cael trafferth ymuno â chyfarfodydd rhithwir neu wedi colli cysylltiad yn eu canol.

Croesawodd y Cynghorydd Clive Davies, Hyrwyddwr Digidol Cyngor Sir Ceredigion, y cynllun gan ddweud: “Gydag ychydig iawn o fuddsoddiad masnachol gan y prif ddarparwyr band eang yng Ngheredigion, mae’n newyddion gwych bod Llywodraeth y DU, fel Llywodraeth Cymru, wedi cyflwyno’r wefan hon i symleiddio’r cynllun talebau er mwyn creu clystyrau i ddenu darparwyr i helpu ein cymunedau i gael gwell cysylltedd band eang. Felly, rwy’n annog pob un o’n trigolion a’n busnesau sy’n dioddef o gysylltedd gwael neu ddim cysylltedd ar hyn o bryd i gofrestru. Bydd yn bwysig felly bod y Llywodraethau’n gweithio’n adeiladol gyda’r sector preifat a ninnau i bennu a chyflwyno atebion i’n cymunedau.”

Yn sgil hynny, dewiswyd Ceredigion yn ardal beilot ar gyfer menter gan Lywodraeth y DU sy’n anelu at sicrhau mwy o fand eang ffeibr mewn ardaloedd gwledig. Mae’r cynllun prawf yn rhoi cyfle i fusnesau a thrigolion gymryd camau i ddatrys eu problemau cysylltedd er mwyn sicrhau newidiadau cadarnhaol i’r economi a safon byw yn y sir.

For More Hyperlocal News Stories Click on the Banner
, , ,
Related Posts
Latest Posts from Wales News Online