04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Chwe pherson ychwanegol wedi marw yng Nghymru o Coronafeirws

DYWEDODD Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiad ar gyfer yr ymateb i’r achos o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae 113 o achosion newydd wedi profi’n bositif am Coronafeirws Newydd (COVID-71) yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 741 – er bod gwir nifer yr achosion yn debygol o fod yn uwch.

“Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) bellach yn cylchredeg ym mhob rhan o Gymru.

“Mae chwe pherson ychwanegol a gafodd brawf positif am Coronafeirws Newydd (COVID-19) wedi marw, sy’n dod â nifer y marwolaethau yng Nghymru i 28.

“Estynnwn ein cydymdeimlad i’r teuluoedd a’r ffrindiau sydd wedi’u heffeithio, a gofynnwn i’r rhai sy’n adrodd ar y sefyllfa barchu cyfrinachedd cleifion.”

Fel yr adroddwyd o’r blaen, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau newydd.

Rheolau newydd ar aros gartref ac aros i ffwrdd oddi wrth bobl eraill

Y camau pwysicaf y gallwn ni i gyd eu cymryd wrth ymladd coronafeirws yw aros gartref er mwyn amddiffyn y GIG ac achub bywydau.

Pan fyddwn yn lleihau ein cyswllt o ddydd i ddydd â phobl eraill, byddwn yn lleihau lledaeniad yr haint. Cyflwynwyd tri mesur newydd:

  1. Ei gwneud yn ofynnol i bobl aros gartref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn
  2. Cau siopau nad ydynt yn gwerthu nwyddau hanfodol ac ardaloedd cymunedol
  3. Atal mwy na dau berson rhag ymgynnull yn gyhoeddus

Mae’n rhaid i bawb gydymffurfio â’r mesurau newydd hyn. Bydd gan yr awdurdodau perthnasol, gan gynnwys yr heddlu, bwerau i’w gorfodi – gan gynnwys trwy ddirwyon a gwasgaru grwpiau sy’n ymgynnull.

Mae’r mesurau yn dod i rym ar unwaith. Bydd Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, yn adolygu’r mesurau hyn yn gyson ac yn eu llacio os yw’r dystiolaeth yn dangos bod hyn yn bosibl.

Aros Gartref

Dim ond am un o bedwar rheswm y dylech chi adael y tÅ·:

  1. Siopa am nwyddau angenrheidiol, er enghraifft bwyd a meddyginiaeth, mor anaml â phosibl
  2. Un math o ymarfer corff y dydd, er enghraifft rhedeg, cerdded neu feicio – ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o’ch cartref
  3. Unrhyw angen meddygol, neu i ddarparu gofal neu i helpu person sy’n agored i niwed
  4. Teithio i’r gwaith ac yn ôl, ond dim ond lle na ellir gwneud hyn gartref

Mae’r pedwar rheswm hyn yn eithriadau.  Hyd yn oed pan fyddwch yn gwneud y gweithgareddau hyn, dylech gwtogi ar yr amser a dreulir y tu allan i’r cartref gan sicrhau bod dau fetr rhyngoch chi ac unrhyw un y tu allan i’ch cartref.

Rhaid i bawb ddilyn y mesurau hyn.  Mae cyngor ar wahân ar gael i unigolion neu aelwydydd sy’n ynysu, ac i’r rhai mwyaf agored i niwed y mae angen eu gwarchod.

Os ydych chi’n gweithio mewn sector allweddol a amlinellir yng nghanllawiau Llywodraeth y DU, neu os yw’ch plentyn wedi’i nodi i fod yn agored i niwed, gallwch barhau i fynd â’ch plant i’r ysgol.  Lle nad yw rhieni’n byw yn yr un cartref, gall plant dan 18 oed symud rhwng cartrefi eu rhieni.

Ewch i wefan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am y canllawiau llawn: https://www.gov.uk/government/topical-events/coronavirus-covid-19-uk-government-response

Meddai Dr Howe: “Nid oes angen i bobl gysylltu ag NHS 111 mwyach os ydynt yn credu bod ganddynt Coronafeirws Newydd (COVID-19).  Gellir dod o hyd i gyngor am y feirws hwn ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar phw.nhs.wales/coronavirus.

“Mae’r symptomau yn cynnwys tymheredd uchel, lle rydych chi’n teimlo’n boeth wrth gyffwrdd â’ch brest neu’ch cefn, a pheswch newydd, parhaus.  Mae hyn yn golygu pesychu llawer, am fwy nag awr, neu dri phwl o beswch neu fwy mewn 24 awr.  Os oes gennych beswch fel arfer, gallai fod yn waeth na’r arfer.

Ni ddylai unrhyw un yr amheuir bod ganddo/ganddi salwch coronafeirws fynd i bractis meddyg teulu, fferyllfa nac ysbyty.  Dim ond os yw’n teimlo na all ymdopi â’i symptomau gartref, fod ei gyflwr yn gwaethygu, neu os nad yw ei symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod y dylai gysylltu â NHS 111.

Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn profi argyfwng sy’n peryglu bywyd. Peidiwch â ffonio 999 dim ond oherwydd eich bod yn aros i 111 ateb eich galwad ffôn.  Rydym yn deall bod llinellau 111 yn brysur, ond bydd rhywun yn ateb eich galwad ar ôl i chi aros.

Mae’r cyhoedd yn chwarae rhan bwysig iawn wrth arafu lledaeniad yr haint. Wrth ddilyn y mesurau diweddaraf yn llym, byddwch yn amddiffyn eich hun a’r rhai mwyaf agored i niwed, ac yn helpu i leihau’r pwysau ar GIG Cymru ac yn lleihau effaith y feirws.”

%d bloggers like this: