04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Chwech uned diwydiannol newydd yng Nglanamman

MAE chwe uned ddiwydiannol newydd wedi’u cwblhau fel rhan o fuddsoddiad
o £2.5 miliwn gan Gyngor Sir Caerfyrddin yng Nglanaman.

Mae’r hen weithdai gwag yn Heol y Tabernacl wedi cael eu trawsnewid ac
yn cael eu defnyddio unwaith eto fel rhan o ail gam ar ôl i’r cyngor
neilltuo’r arian o’i Raglen Gwaith Cyfalaf Pum Mlynedd yn 2017.

Cafodd cam un ei gwblhau yn 2018 gydag 13 o unedau yn cael eu trawsnewid
a’u llenwi gyda busnesau sy’n amrywio o fusnesau ffensio a phren a
gweithgynhyrchu offer pysgota, i fusnesau adfer ac atgyweirio dodrefn,
cyflenwi stofiau llosgi coed ac offer arlwyo a hufen iâ.

Mae’r gweithdai newydd sydd wedi’u hadeiladu o ddur ar gyfer busnesau,
defnydd diwydiannol cyffredinol, storio neu ddosbarthu, ac ar ôl eu
cwblhau, disgwylir y byddant yn gallu cynnig lleoliad i chwech o
fusnesau bach gyda 15-20 o swyddi ychwanegol.

Am Hysbysu Yma

Cysylltwch a ni heddiw

Ni anfonir spam. Byddwn mewn cysylltiad tu fewn 24awr
Byddwn mewn cysylltiad

Mae ganddynt gyfleusterau toiled a chegin, drysau rholio, a phaneli
solar ffotofoltäig wedi’u gosod ar y to, ac maent yn amrywio o 48 metr
sgwâr (tua 500 troedfedd sgwâr) i 94 metr sgwâr (tua 1000 troedfedd
sgwâr).

Maent yn cael eu cynnig ar delerau prydles misol hyblyg, wedi’u hanelu
at ddefnyddiau B1, B2 a B8 a’u bwriad yw helpu i ateb y galw mawr sydd
yn y sir ar hyn o bryd am fannau diwydiannol.

Dywedodd y Cynghorydd David Jenkins, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau,
Cyngor Sir Caerfyrddin:

“Bydd y gweithdai diweddaraf i gael eu hadnewyddu nid yn unig yn annog
creu mwy o swyddi ond byddant hefyd yn cynyddu’r cyflenwad o unedau  diwydiannol i fodloni’r galw yn yr ardal.

“Mae 13 o unedau eisoes yn gweithredu’n llwyddiannus fel busnesau yn
dilyn ein gwaith yng Ngham Un a chawsant eu gosod yn gyflym iawn, felly
rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu cynnig chwe uned ychwanegol
arall. Heb amheuaeth, byddant yn darparu swyddi a chyfleoedd gwych i
bobl sydd am sefydlu eu busnesau yn Sir Gaerfyrddin a thu hwnt.”

Mae gan y Cyngor bortffolio mawr o eiddo diwydiannol a swyddfeydd ac
mae’r galw amdano ar hyn o bryd yn uwch nag y bu ers nifer o
flynyddoedd.

Dylai unrhyw fusnesau sydd â diddordeb gysylltu â’r swyddfa eiddo drwy
ffonio 01267 246246 i gael rhagor o fanylion.

%d bloggers like this: