MAE Cyngor Abertawe wedi dechrau chwilio am gontractwr profiadol i drawsnewid adeilad hanesyddol Theatr y Palace yng nghanol y ddinas.
Disgwylir y bydd gan y contractwr a ddewisir hanes profedig o weithio gydag adeiladau treftadaeth.
Mae’r adeilad 133 oed siâp trionglog yn adeilad rhestredig gradd dau y bu sêr fel Charlie Chaplin a Syr Anthony Hopkins yn perfformio yno yn y gorffennol.
Daeth yr adeilad chwe llawr ar y Stryd Fawr i feddiant y cyngor ar ôl ei brynu gan berchnogion preifat tua blwyddyn yn ôl. Er yn gadarn yn adeileddol ar y tu allan, mae’n adfeiliedig y tu mewn.
Bydd yn cael ei drawsnewid mewn modd sensitif yn gartref i fusnesau technoleg, cychwynnol a chreadigol. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ac mae caniatâd adeilad rhestredig yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.
Gallai’r gwaith ddechrau’r haf hwn a gallai’r adeilad ailagor flwyddyn nesaf. Mae’r cyngor yn ceisio tenant arweiniol i redeg yr adeilad.
More Stories
Grant o £250k roi hwb i economïau gwledig Abertawe
Athletwr a dorrodd pob record wedi’i anfarwoli yn enw stryd ym Mae Copr
Lansio Cronfa Argyfwng Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd i drigolion mewn angen