12/03/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Clwstwr Ynni ar y Môr am wireddu potensial Gogledd Cymru i gynhyrchu ynni carbon isel

MAE M-SParc wedi cael ei ddewis i fod yn gorff atebol ar gyfer y Gynghrair Ynni ar y Môr – clwstwr cadwyn gyflenwi a sefydlwyd er mwyn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan ynni ar y môr yng Ngogledd Cymru.

Mae’r Gynghrair Ynni ar y Môr yn dwyn ynghyd weithgareddau gwynt ar y môr a phrosiectau eraill ym maes ynni carbon isel ar hyd arfordir Gogledd Cymru, i gyd er budd y gadwyn gyflenwi leol.

Mae Llywodraeth Cymru o blaid ffurfioli’r gynghrair ac mae wedi cynorthwyo drwy ddarparu cymorth ariannol i M-SParc fod yn gorff atebol.

Mae arfordir Gogledd Cymru yn lleoliad gwych i fanteisio ar y galw cynyddol am ynni carbon isel, a bydd y Gynghrair yn sicrhau bod busnesau lleol yn gallu manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hynny. Bydd yn helpu i adeiladu ar y gallu sydd ar gael eisoes er mwyn i fusnesau bach a chanolig, a sefydliadau sgiliau ac arloesi lleol, fedru datblygu mwy ar draws y rhanbarth.

Yn ddiweddar, bu Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, yn ymweld â M-SParc i gyfarfod â chynrychiolwyr y gynghrair a dysgu mwy am ei waith.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae arfordir Gogledd Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i fod ar flaen y gad o ran cynhyrchu ynni carbon isel. Rydyn ni wedi gweld prosiectau o bwys yma yn barod, megis Gwynt y Môr.  Mae sylfaen sgiliau gref yma a bydd y Gynghrair yn gweithio i gynnal ac i gryfhau’r sylfaen honno, gan sicrhau ar yr un pryd fod y cymunedau arfordirol yn gallu manteisio i’r eithaf ar ddatblygiadau yn y dyfodol.

Mae’n wych gweld bod y Gynghrair wrth ei gwaith yn M-SParc erbyn hyn.  Roeddwn i hefyd yn falch o weld bod gan BP bresenoldeb yma hefyd, a hynny yn rhan o’r fenter ar y cyd rhwng BP ac EnBW sydd am ddatblygu prosiectau gwynt ar y môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru.

Wrth inni fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, rydyn ni’n gwybod bod yn rhaid inni ganolbwyntio ar gynhyrchu ynni carbon isel, a bydd y Gynghrair yn helpu i sicrhau bod gennym y sgiliau a’r gadwyn gyflenwi i gyflawni hynny.”

Meddai Dr Debbie Jones, Rheolwr Arloesedd Carbon Isel gyda M-SParc:

“Mae cael cefnogi’r Gynghrair Ynni ar y Môr yma yn M-SParc yn destun cryn gyffro. Rydyn ni’n gallu gweld y manteision mawr a ddaw i’r rhanbarth yn sgil hynny, o ran arloesi, sgiliau a chyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi. Bydd yn ein helpu hefyd i wireddu uchelgais pwysig Cymru i gyrraedd Sero Net.”

Ychwanegodd Ifer Gwyn o BP:

“Roedd yn bleser cael cwrdd â Gweinidog Gogledd Cymru. Mae’r fenter ar y cyd a sefydlwyd gan BP ac EnBW i gyflwyno ffermydd gwynt Morgan a Mona ar y môr yn croesawu’r cyhoeddiad hwn heddiw. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru, y Gynghrair Ynni ar y Môr, a rhanddeiliaid eraill i adeiladu prosiect a fydd yn darparu digon o drydan carbon isel i bweru 3.4 miliwn o gartrefi.”

%d bloggers like this: