03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Clymblaid Flaengar yn reoli Cyngor Castell-nedd Port Talbot

MAE clymblaid newydd yn mynd i arwain Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar ôl i gynrychiolwyr o’r grwpiau Annibynnol, Plaid Cymru ac Annibynwyr Dyffryn ddod i gytundeb i rannu grym. Bydd aelodau Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a’r Blaid Werdd yn cefnogi’r glymblaid drwy gyfrwng cytundeb hyder a chyflenwi.

Yr un a enwebwyd fel Arweinydd y Cyngor yw’r Cynghorydd Steve Hunt, a’r Dirprwy Arweinydd enwebedig yw’r Cynghorydd Alun Llewelyn.
Bydd y glymblaid a’r grwpiau sy’n ei chefnogi’n dal 33 sedd o gyfanswm o 60.
Daw’r cyhoeddiad ar ôl dros bythefnos o drafod rhwng y pleidiau ac mae’n dod â 26 mlynedd o weinyddiaeth gan y blaid Lafur i ben yn y fwrdeistref sirol, y tro cyntaf iddi fod felly ers ffurfio’r cyngor yn Ad-drefniant Llywodraeth Leol yn 1996.

Yn ôl Stephen Hunt, Arweinydd y grŵp Annibynnol:

“Mae pobl Castell-nedd Port Talbot wedi pleidleisio’n glir dros newid. Rydyn ni wedi cael cyfle unigryw a bydd y weinyddiaeth hon yn gwneud ei gorau glas, gan weithio’n galed a chydweithio i ddod â syniadau ffres, i barhau i siarad â’n cymunedau, er mwyn i ni beidio â cholli golwg ar yr hyn sy’n cyfri iddyn nhw, ac i wneud lles i bobl yn ein bwrdeistref sirol, law yn llaw â’r union bobl hynny.”

Meddai Alun Llewelyn, Arweinydd grŵp Plaid Cymru:

“Bydd hon yn weinyddiaeth newydd gyda blaenoriaethau newydd ar gyfer Castell-nedd Port Talbot. Rydym wedi cael sawl sgwrs gynhyrchiol dros y bythefnos ddiwethaf ac rydyn ni’n rhagweld fod llawer o dir cyffredin rhyngon ni ar sawl pwnc. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’n gilydd i adeiladu ymddiriedaeth a hyder yn ein cyngor drwy ymgysylltu mewn clymblaid llawn parch sy’n rhoi anghenion ein cymunedau gyntaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Peters, Arweinydd grŵp Annibynwyr Dyffryn:

“Mae trafodaethau wedi bod yn gynhyrchiol ac rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn rhan o weinyddiaeth a fydd yn gweithio er budd pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot, gyda’r nod o daclo’r materion sy’n bwysig iddyn nhw. Edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth i ddarparu’r gwasanaethau mae pobl yn haeddu’u cael gan eu cyngor.”

Meddai’r Cynghorydd Helen Ceri Clarke, Arweinydd grŵp Rhyddfrydwyr Coed-ffranc a’r Gwyrddion:

“Mae barn y cyhoedd yn greiddiol i ddemocratiaeth ac mae pobl Castell-nedd Port Talbot yn amlwg wedi pleidleisio dros newid. Drwy fynd i mewn i gytundeb hyder a chyflenwi, gallwn helpu i hwyluso’r newid hwn, ac ar yr un pryd gadw ein llais annibynnol ar y cyngor a chynrychioli budd gorau preswylwyr.”

Gydag ymrwymiad i weithio gyda phobl i gryfhau cymunedau, economi ac amgylchedd y fwrdeistref sirol, mae rhaglen weinyddol y glymblaid yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol gyda ffocws cryf ar bartneriaeth a chydweithio. Ar ôl cyfrannu’n sylweddol at ffurfio ‘Adfer, Ailosod, Adnewyddu’, cynllun corfforaethol y cyngor, bwriad y weinyddiaeth newydd yw adeiladu ar hwn a’i wella.

Ymysg y blaenoriaethau, bydd:

gwella amgylchedd ffisegol y fwrdeistref sirol;
gwella deilliannau addysg i bawb, gan gynnwys gweithio gyda swyddogion a chymunedau i ystyried y penderfyniad a wnaed i greu ‘uwch-ysgol’ enfawr yn ardal Cwm Tawe;
archwilio dewisiadau i gynhyrchu refeniw, hybu buddsoddiad a helpu i liniaru’r argyfwng costau byw yn lleol;
datblygu a darparu strategaeth i alluogi’r cymoedd a’r pentrefi i gyflawni’u potensial yn llawn, sy’n edrych ar fuddsoddiad, isadeiledd a chysylltedd;
dod â bywyd newydd i ganol trefi; a
gwella economi Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r rhaglen hefyd yn amlinellu’r bwriad i ddysgu oddi wrth y pandemig er mwyn gwella iechyd a gofal cymdeithasol drwy weithio’n effeithiol ar draws pob sector i leihau ynysrwydd a gwneud gwasanaethau a chefnogaeth yn fwy hygyrch i ddefnyddwyr a theuluoedd. Bydd hyn yn cael ei baru â ffocws ar ddarparu ystod o dai ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynnwys tai fforddiadwy, gyda nod o sicrhau fod pobl leol yn elwa o adeiladu tai a chadwyni cyflenwi.

Bydd materion amgylcheddol, hamdden, diwylliant a threftadaeth yn allweddol hefyd, gyda chynlluniau i ddatblygu strategaeth amgylcheddol sy’n cynnwys cymunedau a grwpiau gwirfoddol, strategaeth ddiwylliannol i hybu manteision economaidd, hamdden, cymdeithasol a lles, ac ymrwymiad cadarn i dyfu ac adeiladu ar asedau presennol Celtic Leisure.

Penodir gweinyddiaeth newydd y cyngor yn ffurfiol mewn cyfarfod o’r Cyngor tua chanol mis Mehefin.

%d bloggers like this: