03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Clymblaid newydd yn amlinellu cynigion cychwynnol

FIS ar ôl ei ffurfio, mae’r grŵp newydd sy’n arwain Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Clymblaid yr Enfys, wedi amlinellu’i flaenoriaethau cychwynnol.

Dywedodd Arweinydd newydd y cyngor, y Cynghorydd Stephen Hunt, wrth gyfarfod y cyngor ddoe ( Gorffennaf 13) y bydd y Glymblaid yn gosod gwella trefi, cymoedd a phentrefi fel blaenoriaeth gynnar.

Meddai’r Cynghorydd Hunt:

“Mae preswylwyr eisiau cael cymdogaethau diogel, glân a deniadol. Mae’r Glymblaid yn mynd i ymateb i hynny, a byddwn ni’n gwneud darpariaeth gynnar mewn cyllidebau cyfalaf a refeniw i wella ansawdd ein parth cyhoeddus, gan weithio gyda swyddogion i adolygu gwasanaethau a pholisïau.”

Aeth y Cynghorydd Hunt yn ei flaen i dalu teyrnged i bob un o weithlu’r cyngor, gan gyfeirio’n benodol at gryfder yr arweinyddiaeth broffesiynol ar draws ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Addawodd y byddai’n cynnig arweinyddiaeth wleidyddol gref a chefnogaeth i wasanaethau wrth iddynt wynebu heriau digymar a gododd o ganlyniad i Covid-19, costau byw ac effeithiau ehangach.

Dywedodd: ‘Mae rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, ac ar yr un pryd ddiogelu plant ac oedolion bregus, yn greiddiol i waith y cyngor. Rydyn ni’n deall hynny a byddwn ni’n sicrhau fod y gwasanaethau pwysig hyn yn cael eu blaenoriaethu.”

Y tu hwnt i’r gweithredu cyntaf hwn, bydd y Glymblaid yn chwilio am gyfle i gyflymu’r cynnydd sy’n digwydd ym maes tai, swyddi a newid hinsawdd, gan sicrhau ar yr un pryd fod gwasanaethau hamdden dan do yn cael eu dwyn yn ôl i mewn dan reolaeth uniongyrchol y cyngor fel rhan o agwedd newydd at ofalu am hamdden, twristiaeth, diwylliant a threftadaeth.

Yn ôl Dirprwy Arweinydd y cyngor ac Arweinydd Grŵp Plaid Cymru, y Cynghorydd Alun Llewelyn:

“Mae’r Glymblaid wedi llwyddo i gyrraedd consensws clir ynghylch beth mae angen i ni ganolbwyntio arno fe i ddechrau, a sut fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd er budd pob un o’n preswylwyr.”

Aeth ymlaen i ddweud:

“Rhan bwysig o’n dull o weithio fydd sicrhau y gallwn ni barhau i glywed oddi wrth breswylwyr a rhoi amser i esbonio sut mae’r cyngor yn ymateb i’w hanghenion a’u syniadau. Bydd gwella sut rydyn ni’n ymgysylltu â’n cymunedau yn rhan bwysig o’n dull gweithredu cyffredinol.”

Meddai’r Cynghorydd Martyn Peters, Arweinydd Grŵp Annibynnol Dyffryn:

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n gweithio gyda phartneriaid ar draws y gymuned, a sectorau gwirfoddol, preifat a chyhoeddus, os ydyn ni eisiau gwneud newidiadau cynaliadwy fydd o fudd i bobl leol. Mae’r Glymblaid ei hun yn grŵp amrywiol iawn, ond mae’n gynhwysol iawn hefyd. Rydyn ni’n awyddus i weithio gyda’r ystod fwyaf eang o randdeiliaid.”

Talodd y Cynghorydd Helen Ceri-Clarke, Arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion, deyrnged i weithlu’r cyngor, gan ddweud “Mae gennym weithlu o’r radd flaenaf sydd wedi bod yn wirioneddol eithriadol ers dechrau’r pandemig.”

Aeth y Cynghorydd Ceri-Clarke ymlaen i ddweud:

“Bydd y Glymblaid yn rhoi cefnogaeth lawn i’r Prif Weithredwr a’i thîm wrth i ni weithio drwy’r cyfnod o newid ar ôl y pandemig. Rydyn ni hefyd eisiau cadarnhau ein hymrwymiad i’r bartneriaeth gymdeithasol y mae’r cyngor wedi’i datblygu gyda’i hundebau llafur cydnabyddedig. Ein bwriad yw adeiladu ar y seiliau cryfion hyn i sicrhau fod y cyngor yn cael ei weld fel cyflogwr deniadol, sy’n gallu recriwtio a chadw gweithlu hapus, o ansawdd uchel.”

%d bloggers like this: