03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Coed Stryd y Castell yn symud i gartref parhaol yn Sblot

MAE 19 o goed a osodwyd dros dro ar Stryd y Castell yr haf diwethaf yn cael eu symud i gartrefi parhaol newydd ym Mharc Sblot a Pharc Moorland.   

Dewiswyd y ddau barc hyn yn Sblot fel safleoedd ar gyfer y coed Gellyg addurnol gan fod gan yr ardal rai o’r lefelau gorchudd coed isaf yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

Bydd 9 coeden yn cael eu plannu ym Mharc Sblot, a 10 yn cael eu plannu ym Mharc Moorland. Mae’r coed i gyd yn cael eu plannu mewn mannau torri unwaith sydd newydd eu dynodi.

Mae’r mannau ‘torri unwaith’ newydd sy’n cwmpasu ardal gyfunol o 11,475m2 yn cael eu cyflwyno yn y parciau y tymor torri gwair hwn, fel rhan o waith parhaus y Cyngor i gefnogi bioamrywiaeth.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Un o’r nodau a nodwyd yn ein hymateb Caerdydd Un Blaned i’r argyfwng hinsawdd oedd cynyddu’r ddarpariaeth canopi coed yng Nghaerdydd gan 25% erbyn 2030 – mae dod o hyd i gartref parhaol i’r coed hyn yn un cam bach ar y ffordd i gyflawni hynny.”

“Erbyn diwedd y tymor plannu byddwn wedi plannu tua 2,400 o goed ar draws y ddinas ac rydym wedi ymrwymo i blannu llawer mwy wrth i ni sicrhau bod Caerdydd yn dod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030.”

%d bloggers like this: