04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Contract offerynnau â gwerth cymdeithasol ychwanegol yn newyddion da medd Gweinidog Cyllid

MAE Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans wedi ymweld â gweithdy ym Merthyr heddiw i weld trombonau plastig carbon niwtral yn cael eu cydosod ar gyfer plant 7 oed Cymru.

Mae’r gweithdy Merthyr Institute for the Blind (MTIB) ym Mhentre-bach yn rhan o gonsortiwm sy’n cyflogi gweithwyr anabl a difreintiedig i gydosod offerynnau ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd fel rhan o’r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol newydd.

Sicrhaodd consortiwm PMusic Cymru, sy’n cynnwys MTIB, Elite Solutions a Warwick Music, y contract £500,000 fel rhan o system brynu newydd a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Roedd cais llwyddiannus y consortiwm yn perthyn i gategori neilltuedig – wedi’i gyfyngu i weithdai gwarchodol lle mae o leiaf 30% o’r gweithwyr yn anabl neu’n ddifreintiedig.

Bydd PMusic yn cydosod 35,000 o offerynnau carbon niwtral pBuzz (trombonau plastig) ac 18,000 o pCorders (recordyddion plastig) yn barod i’w darparu i ysgolion ym mis Medi. Bydd pob disgybl ym Mlwyddyn 3 yn cael y cyfle i roi cynnig ar yr offerynnau pres a’r chwythbrennau lefel mynediad hyn fel rhan o’r elfen ‘hyfforddiant dosbarth cyfan’ o’r Cynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol a lansiwyd yn ddiweddar ar gyfer Addysg Cerddoriaeth Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Mae’n wych gweld yr offerynnau hyn yn cael eu cydosod a’u pecynnu yma ym Merthyr, ac rwy’n falch iawn bod MITB ac Elite Solutions wedi gallu creu llawer o swyddi newydd a diogelu rhai sy’n bodoli eisoes yng Nghymru drwy gais llwyddiannus PMusic.

Mae’r contract hwn yn dangos sut y gallwn ddefnyddio cyllid i ychwanegu gwerth cymdeithasol a hyrwyddo cynaliadwyedd. Ar yr un pryd, rydym wedi sicrhau caiff yr offerynnau hyn eu cynhyrchu ar raddfa genedlaethol ac mewn ffordd sy’n sicrhau gwerth am arian.”

Meddai Steven Greenall, Prif Weithredwr Grŵp Warwick Music, sef partner arweiniol consortiwm PMusic Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud prosiect o’r radd flaenaf yn bosibl a fydd yn golygu bod degau ar filoedd o blant yng Nghymru yn cael mynediad am y tro cyntaf erioed at offerynnau cerdd carbon niwtral sydd wedi ennill sawl gwobr, ac a fydd yn cael eu cydosod ym Merthyr Tudful.

Rydym wedi mwynhau gweithio gyda’n partneriaid y MTIB ac Elite Solutions, wrth weld cylch buddsoddi cadarnhaol sydd o fudd i blant Cymru, ysgolion Cymru, economi Cymru a chyflogaeth i bobl ddall, anabl a difreintiedig. Mae astudiaethau ymchwil yn dangos y bydd canlyniadau i blant yn gwella’n sylweddol pan fydd ganddynt fynediad at bynciau creadigol o ansawdd uchel. Mae’r prosiect hwn yn batrwm y mae’r byd addysg cerddoriaeth yn ei wylio gyda diddordeb brwd.”

Ychwanegodd Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLC:

“Rydym yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y strategaeth genedlaethol hon i gaffael a chydosod offerynnau yng Nghymru drwy fuddsoddi mewn offerynnau cynaliadwy ac o ansawdd rhagorol a wneir ym Merthyr Tudful. Bydd yr offerynnau’n cael eu cyflwyno i blant mewn ysgolion ledled Cymru i helpu i gefnogi’r nodau ar gyfer y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Newydd. Bydd yr offerynnau hyn yn galluogi dysgwyr ifanc i brofi llawenydd cerddoriaeth drwy chwarae eu hofferyn cerdd cyntaf.

Hoffwn ddiolch i gonsortiwm PMusic Cymru i gyd sydd wedi creu’r offerynnau gwych hyn i ddisgyblion ledled Cymru tra hefyd yn sicrhau bod llawer o swyddi yn cael eu cefnogi a’u creu yn y broses.”

%d bloggers like this: