04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Conwy cyntaf yng Nghymru i gael lori ailgylchu trydan

MAE lori ailgylchu trydan cyntaf Cymru wedi ymuno â fflyd o gerbydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Derbyniodd tîm gwastraff y Cyngor y cerbyd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ar 1 Mehefin 2022 ac mae wedi cwblhau ei rownd ailgylchu cyntaf yn Llandudno.

Mae’r lori wedi’i gyflenwi gan Romaquip ac yn gallu teithio hyd at 100 o filltiroedd rhwng gwefru yn seiliedig ar 180kwh ac yn dawelach na cherbydau diesel traddodiadol.  Dyma’r 17eg cerbyd trydan yn fflyd y Cyngor sy’n cynnwys torwyr gwair, faniau a cheir trydan.

Dywedodd y Cyng Geoff Stewart, Aelod Cabinet y Gymdogaeth a’r Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:

“Rydym wrth ein bodd i fod ar flaen y gad gyda’r dechnoleg newydd hon. Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid hinsawdd.  Mae lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o’n cerbydau fflyd yn rhan allweddol o gyflawni sero net erbyn 2030.”

Dywedodd Matt Patanden o’r cyflenwyr Romaquip:

“Mae’r cerbyd Kerb-Sort trydan yn cynnig yr ateb cyfan sy’n galluogi ein cwsmeriaid i gyflawni eu targedau carbon heb orfod cyfaddawdu ar eu dulliau casglu.

Mae’r cerbydau’n cynnig ffrâm heb gyfaddawdu i’r gwasanaeth gyda phrif lwythi mwy ac amrywolion didoli newydd ar ochr y palmant (llinellau cynnyrch), rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chonwy unwaith eto i’w helpu fel yr awdurdod lleol cyntaf yn y byd i redeg fflyd o gerbydau ailgylchu trydan.”

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd:

“Rydym wedi gweithio gyda chyngor Conwy i fod yn arloesol wrth fod yn gyngor cyntaf yn y DU i weithredu cerbyd casglu deunydd ailgylchu o’r math hwn a gaiff ei bweru gan fatri.

Wrth gyflymu ein taith at economi gylchol, rydym yn datgarboneiddio’r gwasanaeth casglu ac ailgylchu trwy newid o gerbydau a gaiff eu pweru gan danwydd ffosil i gerbydau ag allyriadau isel iawn. Fe fydd y cerbydau hyn yn chwarae rôl bwysig wrth weithredu ein hymrwymiad i fflydau’r sector cyhoeddus fod yn sero net erbyn 2030.”

Llun. Romaquip.com

%d bloggers like this: