03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Covid-19 yn rhoi pwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol / Covid-19 puts social care services under significant pressure

MAE pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn sgil Covid-19.

Mae cartrefi gofal preifat a chartrefi gofal y cyngor ar draws y sir yn brwydro yn erbyn effaith y feirws ar bobl sy’n agored i niwed y mae angen gofal arnynt, gyda gweithlu llai wrth i nifer fawr o ofalwyr gael eu gorfodi i hunanynysu.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog pobl i gefnogi eu hymdrechion i ofalu am y bobl fwyaf agored i niwed drwy wrando ar gyngor Llywodraeth Cymru i aros gartref a helpu i arafu lledaeniad Covid-19 yn ein cymunedau.

Ar hyn o bryd, mae 34 o gartrefi gofal yn Sir Gaerfyrddin gydag achosion Covid-19, neu’n methu â chymryd lleoliadau wrth iddynt adfer ar ôl cael achosion.

Mae Covid-19 yn cael effaith mor ddifrifol ar ddeg cartref gofal fel bod y cyngor wedi gorfod cymryd camau i ddarparu cymorth a staffio ychwanegol – mewn un achos roedd rhaid rheoli cartref dros dro gan nad oedd staff na rheolwyr yn gallu gweithio.

Mae prinder staff hefyd yn effeithio ar ofal cartref, gan fod llawer o ofalwyr yn methu â gweithio gan fod yn rhaid iddynt hunanynysu, i’r fath raddau fel mai dim ond gofal hanfodol y gall yr awdurdod ei ddarparu ar hyn o bryd.

Dywedodd Jake Morgan, Cyfarwyddwr Cymunedau y Cyngor, fod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn wynebu heriau sylweddol.

“Dros yr wythnosau diwethaf mae gofal cymdeithasol wedi bod o dan bwysau sylweddol i gynnal gwasanaethau hanfodol,” meddai. “Yr her sylweddol i lawer o gartrefi yw cynnal lefelau staffio diogel ac rydym yn darparu gwasanaethau a staff yn uniongyrchol i gefnogi nifer o gartrefi yn y sir.

“Mae amrywiaeth o gynlluniau wrth gefn yr ydym wedi’u rhoi ar waith i leihau’r risg dros yr wythnosau nesaf ac rwy’n falch bod y mwyafrif o gleientiaid sy’n dal Covid-19 yn gallu gwella’n llwyr drwy ymdrechion ein staff gofal ac iechyd ymroddedig.

“Mae staff ar draws gofal cymdeithasol yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gellid ei ddisgwyl ganddynt i gefnogi a diogelu pobl sy’n agored i niwed, ac rwyf am ddiolch iddynt yn bersonol am eu hymrwymiad parhaus.”

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y byddai’r risgiau’n parhau’n uchel nes i’r brechlyn gael ei gyflwyno ar gyfer defnyddwyr agored i niwed a staff gofal, ac anogodd bobl i chwarae rhan yn yr ymdrechion i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed.

“Mae risgiau wedi bod yn uchel ar draws y sector dros y Nadolig a byddant yn parhau felly hyd nes y bydd y brechlyn wedi’i gyflwyno. Diolch byth, rydym eisoes yn gweld y budd i’r cartrefi gofal hynny a gafodd y brechlyn cyn y Nadolig.

“Rydym yn agos at weld y brechlyn yn cael effaith amddiffynnol wirioneddol yn ein cymunedau a byddwn yn gofyn i bawb yn y sir chwarae eu rhan i atal lledaeniad y feirws a rhoi’r cyfle gorau i ni amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed.”

English version:

SOCIAL care services in Carmarthenshire are straining under the significant pressure of Covid-19.

Both council-run and private care homes across the county are battling the impact of the virus on vulnerable people requiring care with a reduced workforce as large numbers of carers are forced to self-isolate.

Carmarthenshire County Council is urging people to support their efforts to care for the most vulnerable by heeding the Welsh Government’s stay at home message and helping slow the spread of Covid-19 in our communities.

Currently, there are 34 care homes in Carmarthenshire with Covid-19 cases, or unable to take placements as they recover from an outbreak.

Ten care homes are so severely affected by Covid-19 that the council has had to step in to provide support and extra staffing – in one case taking over the management of a home temporarily as staff and management were unable to work.

Domiciliary care is also affected by staff shortages, with many carers unable to work as they have to self-isolate, so much so that the authority is currently only able to deliver essential care.

Jake Morgan, the council’s Director of Communities, said social care services are facing significant challenges.

“Over the last few weeks social care has been under significant pressure to maintain critical services,” he said. “The overwhelming challenge for many homes is to maintain safe staffing levels and we are providing services and staff directly to support a number of homes in the county.

“There are a range of contingencies that we have put in place to mitigate the risk over the coming weeks and I am pleased that through the efforts of our dedicated care and health staff that the vast majority of clients who contract Covid-19 are able to make a full recovery.

“Staff across social care are going above and beyond what could be expected of them to support and protect vulnerable people, and I want to thank them personally for their continued commitment.”

Cllr Jane Tremlett, Executive Board Member for Health and Social Care, said the risks would remain high until the vaccine roll-out is completed for vulnerable users and care staff, and urged people to play a part in the efforts to protect the most vulnerable.

“Risks have been high across the sector over Christmas and will remain so until the vaccine roll-out is completed. Thankfully, we are already seeing the benefit to those care homes who received the vaccine before Christmas.

“We are close to the vaccine having a real protective effect in our communities and I would ask everyone in the county to do their bit to prevent the spread of the virus and give us the best chance to protect our most vulnerable.”

 

 

%d bloggers like this: