YN ystod cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd yn rhithiol ar 03 Mawrth 2022, cydnabu’r Cynghorwyr yr heriau sy’n wynebu pobl ifanc i brynu eu cartrefi eu hunain a pharhau yn eu sir.
Bydd cynigion yn cael eu hystyried i gyflwyno Cynllun Tai Cymunedol a fydd yn darparu llwybr gwell i’r genhedlaeth iau at berchen ar dŷ yng Ngheredigion.
Daw’r penderfyniad yn dilyn papur a gyflwynwyd yn 2021 a oedd yn manylu ar weledigaeth i greu llwybr i genhedlaeth ifanc Ceredigion berchen ar eu tŷ eu hunain.
Cefnogodd y Cyngor llawn y cynnig gan gydnabod yr angen i ddatblygu cynllun a fyddai’n cefnogi ac yn galluogi pobl ifanc i brynu eu heiddo cyntaf a fyddai hefyd o fudd i economi a diwylliant y sir.
Gallai’r opsiynau gynnwys cynlluniau rhannu ecwiti, rhentu i berchnogi a hunanadeiladu.
Er bod gan Geredigion broblem o ran yr angen am dai fforddiadwy, nodwyd bod gwaith sylweddol wedi cael ei wneud yn barod i fynd i’r afael â’r angen hwnnw. Mae 4,000 o dai fforddiadwy yn y sir (tua 12% o gyfanswm y stoc dai) ac mae 45 yn ychwanegol (ar gyfartaledd) yn cael eu darparu yn flynyddol.
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio:
“Byddai cyflwyno unrhyw gynllun yn y dyfodol o fudd i drigolion Ceredigion, gan y byddai’n ehangu cwmpas ac argaeledd y cynnyrch fforddiadwy ar gyfer helpu pobl ifanc Ceredigion i brynu tai. Mae tueddiadau diweddar a’r cynnydd mewn galw am eiddo yn y sir, ar y cyd a chyflenwad cyfyngedig, wedi creu ymchwydd o ran tai gyda phrisiau tai yn cyrraedd lefelau nodedig. Mae o’r pwys mwyaf i ni ein bod yn gallu helpu pobl i fyw ac aros yn y sir, ac edrychwn ymlaen at archwilio’r opsiynau sydd ar gael.”
Byddai mynd i’r afael â’r materion hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau tai lleol y Cyngor a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m