04/26/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru yn gwarchod 75,000 swyddi

MAE Ken Skates Gweinidog yr Economi wedi datgelu bod Cronfa Cadernid Economaidd unigryw Llywodraeth Cymru eisoes wedi cefnogi dros 9,000 o fusnesau yng Nghymru, gan helpu iddynt warchod oddeutu 75,000 o swyddi.

Mae’r gronfa wedi gweld gwerth dros £150 miliwn o grantiau hollbwysig yn cael eu darparu i fusnesau i helpu iddynt ddelio gydag effaith coronafeirws.  Mae bron £138 miliwn wedi cefnogi cwmnïau Micro a BBaChau eisoes, gyda mwy o gyllid yn cyrraedd busnesau pob diwrnod.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:  “Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd yn hanfodol wrth sicrhau bod busnesau o Gymru yn derbyn y cymorth ariannol y maent ei angen i helpu iddynt ddod drwy’r cyfnod hynod heriol hwn.  Mae ein cyfrifiadau yn dangos bod y Cynllun Cadernid Economaidd wedi helpu i warchod oddeutu 75,000 o swyddi.

“Mae’r Coronafeirws wedi rhoi pwysau na welwyd mo’i debyg ar y gymuned fusnes, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth o fewn ei gallu i ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol.  Sefydlwyd y Cynllun Cadernid Economaidd i lenwi’r bylchau a adawyd gan gymorth Llywodraeth y DU a dwi’n falch bod y gronfa hon yn cefnogi cynifer o gwmnïau allai fod wedi cael eu gadael ar ôl.

“Gwnaethom ymrwymiad hefyd i symleiddio pethau a gwneud yn siŵr bod y cwmnïau yn derbyn yr arian cyn gynted â phosibl.  Mewn rhai achosion golygodd hyn bod ceisiadau yn dod i law, yn cael eu prosesu a bod cyllid yn cyrraedd y busnes mewn cyn lleied â phedwar niwrnod – ac fe wyddom bod y cyflymder a’r hyblygrwydd hwn yn union beth sydd ei angen ar ein busnesau.

“Bydd rhagor o gyllid y Gronfa Cadernid Economaidd yn parhau i gyrraedd busnesau  yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf wrth i geisiadau barhau i gael eu prosesu.”

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru sef y cymorth mwyaf hael a chynhwysfawr yn y DU.

Mae hyn hefyd yn cynnwys mwy na 65,000 o ddyfarniadau gwerth £750 miliwn o ryddhad ardrethi busnes i helpu iddynt ymateb i heriau oherwydd y pandemig.

Bydd ail gyfnod y Gronfa Cadernid Economaidd, ddaeth i ben ddydd Gwener 10 Gorffennaf, yn rhoi cymorth i gwmnïau a busnesau cyfyngedig nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW a ddechreuodd wedi Mawrth 2019.

Mae cronfa ar wahân gwerth £5 miliwn wedi’i sefydlu’n benodol i helpu cwmnïau newydd sydd heb dderbyn cymorth gan gynllun cymorth incwm Llywodraeth y DU ar gyfer yr hunangyflogedig, yn parhau ar agor ar gyfer ceisiadau.  Bydd y cynllun grant yn cefnogi hyd at 2,000 o gwmnïau  newydd yng Nghymru gyda grant o £2,500 yr un.

Ychwanegodd Ken Skates: “Fel Llywodraeth Cymru rydym wedi gweithredu ar unwaith i helpu i warchod busnesau yng Nghymru rhag effaith ddifrifol y coronafeirws.

“Rydym yn gweithio’n galed i ymateb i anghenion busnesau, ond mae’n amlwg nad yw ein cyllideb yn ddi-ddiwedd.

“Er ein bod yn cydnabod ymyraethau economaidd Llywodraeth y DU  hyd yma, yn enwedig y Cynllun Cadw Swyddi, mae’n amser bellach iddynt gynyddu eu hymdrechion a darparu rhagor o gymorth ariannol y mae ei wir angen ar fusnesau a’r economi er mwyn sicrhau adferiad o’r pandemig hwn.”

%d bloggers like this: