04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cronfa Cadernid Economaidd wedi rhoi cymorth hanfodol i dros 8,200 fusnesau

MAE’R Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n rhan o becyn cymorth Llywodraeth Cymru gwerth £1.7 biliwn, yn darparu cymorth ariannol sylweddol i gwmnïau ledled Cymru, ac yn ategu’r cymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU.  Hyd yma, mae wedi rhoi cymorth ariannol i dros 8,200 o fusnesau gyda cymorth ariannol sy’n werth dros £230 miliwn.

Cyhoeddodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, fod y gronfa wedi rhoi cymorth hanfodol i fusnes peirianyddol allweddol i helpu iddo ddelio gydag effaith y coronafeirws.

Mae MII Engineering Limited yng Nghaerffili yn cefnogi ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys dur, cynhyrchu bwyd a rheilffyrdd.  Mae’r cwmni yn gyflogwr o bwys yn yr ardal a bydd y £417,000 o gyllid grant y mae wedi’i dderbyn gan y Gronfa yn helpu i ddiogelu cannoedd o swyddi.

Defnyddia MII Engineering Limited y cyllid i gynnal amgylchedd weithio ddiogel i staff ac I helpu i ddiogelu dyfodol y cwmni.

Meddai Matthew Moody, cyfarwyddwr cyllid MII: “Mae y Coronafeirws wedi creu heriau sylweddol i ni a’n cwsmeriaid.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein timau’n gweithio’n effeithiol, tra’n cynnig amgylchedd ddiogel.  Gyda gostyngiad yn nifer yr archebion, cafodd hyn effaith fawr ar ein cyfalaf gweithio.

“Bydd y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i gefnogi cwsmeriaid hen a newydd pan fydd yr economi wedi ei hadfer.”

Meddai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi gweithio’n galed yng Nghymru i ail-flaenoriaethu ein cyllidebau a dod o hyd i bwrpas newydd i gyllid pan y gallwn, i wneud yn siŵr bod y cyllid ariannol ar gael ble y mae ei angen fwyaf – ac yn gyflym.

“Mae ein pecyn cymorth yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd ar gael mewn unrhyw fan arall yn y DU, ac rwy’n falch bod y Gronfa Cadernid Economaidd yn helpu

miloedd o fusnesau i ddelio gyda’r problemau presennol sy’n hollbwysig er mwyn gallu goroesi a diogelu swyddi.

“Mae ein hymdrechion i helpu i gefnogi ystod eang a nifer fawr o fusnesau yn gweithio.  O bob un o wledydd y DU, Cymru sydd â’r ganran uchaf o fusnesau sy’n anfon ceisiadau am gymorth ar gyfer y coronafeirws.

“Mae’r rhain yn adegau economaidd hynod heriol, ond drwy gydol yr argyfwng hwn, rwyf wedi dweud fyd mod eisiau i fusnesau o safon, sy’n ffynnu, barhau i fod yn fusnesau o safon sy’n ffynnu pan ddaw yr argyfwng coronafeirws i ben.

“Mae MII Engineering Limited yn cymryd camau i wneud hyn ac rwy’n falch iawn ein bod wedi rhoi’r cyllid hanfodol hwn iddynt.

“Rydym wedi ymrwymo o hyd i wneud popeth y gallwn i gefnogi cwmnïau megis MII a helpu i gael ein heconomi yn ôl i’r lefelau twf cyn y pandemig.”

%d bloggers like this: