04/18/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cronfa Ddatblygu Eiddo Glannau Port Talbot sy’n werth £10m

MAE Cronfa Ddatblygu Eiddo (PDF) newydd gwerth £10m, gyda’r nod o hybu buddsoddiad yn ardal Glannau Port Talbot, bellach ar agor, ac mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ceisio mynegiant o ddiddordeb gan gwmnïau, tirfeddianwyr a datblygwyr.

Mae ardal Glannau Port Talbot yn cynnwys yr Harbwr, Parc Ynni Baglan ac Ystâd Ddiwydiannol Baglan, a bydd y gronfa’n cael ei defnyddio i annog a galluogi datblygu ar y tri safle hwn.

Bydd yn gweithio drwy ddarparu cymorth ariannol ar ffurf cyllido bwlch er mwyn adeiladu neu adnewyddu adeiladau o ansawdd uchel ar gyfer defnydd tybiannol, diwydiannol neu fasnachol.

Bydd y gronfa’n targedu’n benodol y sectorau ymchwil, datblygu ac arloesi, gyda’r nod o greu swyddi ar draws yr ardal.

Bydd prosiectau sy’n gymwys yn ennill hyd at uchafswm o 45% o gostau a nod y PDF fydd cyllido tri chynllun o faint rhyw 2,000 metr sgwâr yr un a allai fod yn gartref i hyd at 400 swydd (gan greu 120 swydd newydd) dros bum mlynedd.

Cost darparu’r prosiect fydd £4.5m – arian a fydd yn cael ei gyfateb gan fuddsoddiad sector preifat o leiafswm o £5.5m.

Gellir cael ffurflen Mynegi Diddordeb drwy e bostio pdf@npt.gov.uk .Bydd y cyfle i Fynegi Diddordeb yn y cylch cyntaf hwn o’r gronfa’n cau ddydd Gwener 8 Mehefin 2022.

Cynlluniwyd y PDF i fod o fudd yn bennaf i fusnesau newydd a brodorol. Bydd preswylwyr lleol a’r gymuned ehangach yn elwa o greu swyddi a chael lleoedd gwell, mwy modern, i weithio ynddynt hefyd.
Mae’r PDF £10m yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy’r Rhaglen Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel £58.7m sy’n rhan o’r rhaglen fuddsoddi ranbarthol Bargen Ddinesig Bae Abertawe i drawsnewid De Cymru.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi sicrhau cyllid Bargen Ddinesig o £4.5m ar gyfer y prosiect.

Yn ôl Nicola Pearce, Cyfarwyddwr Amgylchedd ac Adfywio Cyngor Castell-nedd Port Talbot:

“Bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus Glannau Port Talbot, gan gryfhau’i ddichonolrwydd fel lle i fyw a gweithio ynddo, yn ogystal ag ateb y galw presennol am lety diwydiannol a masnachol.
“Mae hefyd yn cyfuno â strategaeth Ddatgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE) y cyngor am fod y gronfa wedi’i hanelu at y sectorau ymchwil, datblygu ac arloesi, a ffydd yn helpu ein nod o leihau allyriadau carbon.

“Y nod fan hyn yw llenwi’r bwlch ariannol rhwng costau uchel adeiladu a gwerth y farchnad yr eiddo ar y farchnad yn y pen draw. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau i’r gronfa.”

%d bloggers like this: