04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cronfa o £6.5m ar gyfer cartrefi sydd wedi dioddef llifogydd

MAE Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa newydd o £6.5m i gynorthwyo awdurdodau lleol a phobl y mae llifogydd wedi effeithio arnynt yn ystod y cyfnod clo lefel rhybudd pedwar.

Mae cynghorau lleol wrthi’n cysylltu â deiliaid tai sydd wedi dioddef llifogydd a difrod dŵr yn eu cartrefi er mwyn rhoi gwybod iddynt fod y gronfa ar gael i helpu gyda chostau trwsio a’r gost o brynu eitemau newydd ar gyfer y cartref.

Medd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Mae delio gyda’r difrod a achoswyd gan y llifogydd yn ddigon drwg, ond mae gorfod delio gyda hyn yng nghanol pandemig yn eithriadol o anodd.

“Bydd y gronfa hon yn galluogi awdurdodau lleol i roi taliadau i unigolion i’w cynorthwyo i aros yn eu cartrefi eu hunain yn ddiogel, er mwyn lleihau cysylltiadau â phobl eraill a lleihau lledaeniad y feirws.

“Mae awdurdodau lleol yn gweithio’n eithriadol o galed i gynorthwyo pobl y difrodwyd eu cartrefi gan lifogydd, a hoffwn gynnig fy nghydymdeimlad a’m cefnogaeth i bawb sydd wedi dioddef hyn.”

 

%d bloggers like this: