03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Crwydro llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus Tregaron yn ystod yr Eisteddfod?

YN ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, a gynhelir yr wythnos yma, mae tîm Arfordir a Chefn Gwlad Ceredigion wedi trefnu teithiau tywys byr dyddiol o Bentre’ Ceredigion fel bod modd i bobl leol ac ymwelwyr brofi golygfeydd a chefn gwlad prydferth Tregaron wrth fwynhau’r Eisteddfod hirddisgwyliedig yn ein sir.

Bydd y teithiau cerdded ar lwybrau Hawliau Tramwy Cyhoeddus Ceredigion, sy’n darparu un o’r prif ffyrdd i bobl leol a thwristiaid gael mynediad at gefn gwlad a’i fwynhau.

Bydd teithiau tywys yn dechrau am 11am bob dydd o’r ardal bicnic ym Mhentre’ Ceredigion. Cylchdaith o ddwy filltir fydd y teithiau hyn, sy’n mynd i fyny at olygfan sy’n edrych dros y dref a’r Maes. Bydd Cerddwyr yn dychwelyd i’r Maes o fewn 2 awr. Efallai y bydd y rhan i fyny’r allt ychydig yn heriol i rai gan fod 7 camfa i ddringo drostynt, fodd bynnag dylai fod yn addas ar gyfer y rhan fwyaf o gerddwyr.

Mae’n rhaid i aelodau o’r cyhoedd a hoffai ymuno wisgo esgidiau cadarn sy’n addas ar gyfer tir garw a sicrhau bod ganddynt ddŵr yfed wrth law. Mae croeso hefyd i gerddwyr a hoffai ymuno â’r daith gerdded ond nad ydynt yn bwriadu ymweld â’r Maes ymuno â’r daith ym mhrif faes parcio’r dref/y Ganolfan Dreftadaeth am 11:25am.

Yn ogystal â’r teithiau cerdded hyn, ddydd Mawrth 02 Awst, mae taith dywys heriol o 8.5 milltir wedi’i threfnu. Bydd y daith yn cael ei harwain gan un o Geidwaid Hawliau Tramwy Ceredigion sy’n brofiadol iawn ac yn hapus i ateb cwestiynau ynglŷn â rheoli Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ei ardal benodol.

Os hoffech chi ymuno, sicrhewch eich bod yn yr ardal bicnic ym Mhentre’ Ceredigion erbyn 10:50am er mwyn i arweinwyr y teithiau cerdded fynd drwy’r manylion cyn gadael am 11am.

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb, ni fydd aelodau o’r cyhoedd nad ydynt wedi gwisgo’n briodol ar gyfer y tywydd neu’r daith gerdded yn cael ymuno. Os ydych chi’n dangos symptomau COVID-19 neu’n teimlo’n sâl, peidiwch â mynychu.

Caiff y teithiau cerdded hyn eu harwain yn rhannol gan wirfoddolwyr, ac felly maent yn amodol ar argaeledd arweinwyr ac yn dibynnu ar Covid.

%d bloggers like this: