MAE uwch-gynrychiolwyr o gwmni yn Seland Newydd sy’n gyfrifol am gynigion i adeiladu parc antur awyr agored yn Abertawe wedi ymweld â’r ddinas i ddatblygu eu cynlluniau.
Mae cynigion ar gyfer Mynydd Cilfái a gynigiwyd gan Skyline Enterprises yn cynnwys system ceir cebl, gwifrau gwib a llwybrau ceir llusg fel rhan o atyniad y bwriedir iddo agor yn 2025.
Mae gwaith dylunio, cael gafael ar dir a thrafodaethau ariannu i gyd ar y gweill a byddai’r rhain, wedi iddynt gael eu cwblhau, yn paratoi’r ffordd ar gyfer cais cynllunio.
Bydd cynigion eraill ar gyfer yr atyniad ar Fynydd Cilfái yn cynnwys mannau i gynnig bwyd a diod, yn ogystal â llwyfan panoramig gyda golygfeydd ar draws Bae Abertawe.
Mae Mynydd Cilfái yn Abertawe, sy’n 193 metr o uchder, yn mwynhau golygfeydd dros Fae Abertawe, y marina, SA1, ardal newydd Bae Copr, Stadiwm Liberty a safle Gweithfeydd Copr hanesyddol yr Hafod-Morfa.
Cyfarfu cynrychiolwyr Cyngor Abertawe â dirprwyaeth Skyline yn ystod eu hymweliad â’r ddinas a oedd hefyd yn cynnwys taith dywys o gwmpas ardal £135m Bae Copr.
Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Adfywio, Buddsoddi a Thwristiaeth:
“Mae’r ymweliad hwn sy’n dilyn y pandemig, yn dangos pa mor ymrwymedig y mae’r cwmni’n dal i fod i gyflwyno atyniad hamdden o’r radd flaenaf sy’n addas i deuluoedd i bobl Abertawe a de Cymru gyfan.
“Drwy wneud yn fawr o botensial digyffwrdd Mynydd Cilfái, byddai’r cynllun yn helpu i fynd â gwaith adfywio cyfredol y ddinas i’r lefel nesaf, gan adeiladu ar gynlluniau fel Arena Abertawe a’r gwelliannau ar Ffordd y Brenin a Wind Street a gyflwynwyd eisoes.
“Yn ogystal â chyfleusterau hamdden, byddai’r parc antur arfaethedig hefyd yn creu swyddi i bobl leol ac yn codi proffil Abertawe ymhellach fel lle i fuddsoddi a gwneud busnes.”
Meddai Geoff McDonald, Prif Weithredwr Gweithredol Skyline Enterprises:
“Mae’r holl waith adfywio sydd wedi digwydd yn Abertawe ers ein hymweliad diwethaf â’r ddinas cyn y pandemig wedi creu cryn argraff arnom.
“Gallwn weld bod rhywbeth go arbennig yn digwydd yn Abertawe ac, fel cwmni, hoffem fod yn rhan ohono.
“Mae’r cyfarfod cadarnhaol â Chyngor Abertawe yn golygu bod ein trafodaethau bellach yn parhau’n gyflym wrth i ni geisio cwblhau ein diwydrwydd dyladwy a mynd â’n cynigion i gam nesaf eu datblygiad.”
Mae Skyline Enterprises yn rhedeg dau gyrchfan sy’n cynnwys reidiau ceir cebl ac atyniadau eraill yn Seland Newydd, yn ogystal â pharciau ceir llusg yng Nghanada, De Corea a Singapore.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m