03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfarwyddyd newydd i gadw’n ddiogel, dal ati i ddysgu

MAE’R Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi  polisi o’r enw Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu sy’n ceisio cefnogi dysgwyr, arweinwyr, llywodraethwyr, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr i ddelio ag effaith y coronafeirws.

Lansiodd y Gweinidog y cyfarwyddyd ar y diwrnod sy’n nodi dechrau tymor yr haf sy’n golygu mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU i ddarparu cyfarwyddyd ac adnoddau cenedlaethol mewn ffordd gydlynol.

Mae datganiad y Gweinidog yn nodi’n glir y bydd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn parhau fel a ganlyn:

  • diogelwch ac iechyd corfforol a meddyliol yr holl ddysgwyr a’r gweithlu addysg yng Nghymru,
  • gallu’r dysgwyr i gyd i ddal ati i ddysgu,
  • a symud y dysgwyr yn ôl i’r ysgol ac ymlaen i gam nesaf eu dysgu pan mae’n ddiogel gwneud hynny.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: “Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae ein system addysg ni wedi wynebu tarfu sylweddol ond, fel erioed, mae’n parhau o bwysigrwydd canolog.

“Heddiw yw dechrau tymor yr haf, ond ni fydd ysgolion yng Nghymru’n ailagor eu drysau i’r dysgwyr i gyd.

“O dan yr amgylchiadau hyn, ein tasg ni yw dod o hyd i ffyrdd o helpu ein plant ni i ddal ati i ddysgu – mae hyn yn golygu galluogi dysgu o bell a chynllunio ar gyfer sut gallwn ni helpu plant orau yn ystod y cyfnod hwn.

“Mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru effaith cau ysgolion ar ein plant ni, yn enwedig y plant hynny sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, yn ogystal â dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig a fydd yn cael eu heffeithio fwyaf yn ôl yr hyn mae ymchwil yn ei ddangos.

“Mae arweinwyr ac athrawon wedi wynebu’r her yn ystod yr argyfwng yma ac wedi dangos hyblygrwydd ac arweinyddiaeth; bydd addysgu o bell yn galw am addasu pellach ar addysgu a ffordd wahanol o weithio.

“Hefyd byddwn yn cefnogi rhieni a gofalwyr i gefnogi dysgu eu plant, gan gydnabod, er mai hwy yw prif addysgwr eu plant ar hyn o bryd, nad ydynt yn athrawon, a datgan yn glir nad ydym yn disgwyl iddynt ail-greu ysgol gartref. Mae ganddynt rôl bwysig hefyd mewn cefnogi ysgolion fel y byddent yn gwneud fel rheol.

“Ni fydd y ddarpariaeth hon yn adlewyrchu’r hyn fyddai ysgolion yn ei gynnig yn ystod amser arferol, ond rwy’n hyderus y bydd ysgolion sy’n gweithio mewn partneriaeth â rhieni a’r system addysg ehangach yn codi i’r her ac yn gweithio gyda’n dysgwyr ni, fel mae llawer yn gwneud eisoes.”

“Rydw i’n credu mai’r peth pwysicaf yn ystod y cyfnod hwn o newid a tharfu digynsail yw diogelwch a lles ein plant a’n gweithlu ni a gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi lles corfforol a meddyliol ein plant a’n pobl ifanc drwy gydol y cyfnod hwn.”

“Mae rhaglen Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu yn cynnwys cyfraniadau o bob rhan o’r byd addysg a thu hwnt er mwyn darparu cefnogaeth i’n system gyfan ni yng Nghymru.”

Yn y cyfarwyddyd, mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn sicrhau bod gan ysgolion a dysgwyr cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog yr un hawl i gefnogaeth ac y rhoddir sylw penodol i ddysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sy’n byw mewn cartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad, i’w helpu i ddod o hyd i ffyrdd o gynnal eu cyswllt â’r iaith.

Hefyd mae’r polisi’n rhoi sylw i faterion cysylltiedig ag ailagor ysgolion ac am hynny dywedodd y Gweinidog: “Dim ond pan fydd y cyngor gwyddonol yn dweud ei bod yn ddiogel gwneud hyn fydd hynny’n digwydd ond, hyd yn oed wedyn, ni allwn gymryd yn ganiataol y byddwn yn dychwelyd at drefniadau arferol ar unwaith.

“Mae hyn yn golygu bod ein cefnogaeth dysgu o bell yn debygol o fod â rhan i’w chwarae ochr yn ochr â’r ddarpariaeth mewn ysgolion.

“Hefyd rhaid i ni ystyried sut i gefnogi ysgolion i helpu plant i ailintegreiddio mewn ysgolion pan ddaw’r amser, a phenderfynu beth ddylai ffocws y dysgu fod.”

Hefyd mae’r datganiad yn cydnabod sut mae Cymru mewn sefyllfa dda i gefnogi ysgolion, ymarferwyr a dysgwyr drwy ei phlatfform digidol blaenllaw yn y byd, Hwb ond mae’n addo defnyddio’r dechnoleg ymhellach fyth.

Bydd y datganiad polisi’n cael ei ddilyn yn awr gan gyfarwyddyd ar gyfer penaethiaid, athrawon, cymorthyddion addysgu, holl staff yr ysgolion a rhieni a gofalwyr yn nes ymlaen yn ystod yr wythnos hon, gyda mwy o gyfarwyddyd ac adnoddau’n cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun, Ebrill 27.

Meddai’r Gweinidog wedyn: “Mae ein cenhadaeth genedlaethol ni i godi safonau, cau’r bwlch cyrhaeddiad a sicrhau system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol ac y mae gan y cyhoedd hyder ynddi wedi sbarduno cynnydd ar gyfer ein dysgwyr, ein hathrawon, ein cymorthyddion addysgu a’r holl staff addysg a’n hysgolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Ni ddylem – ac ni fyddwn – yn colli golwg ar yr uchelgais ar y cyd ar gyfer pob un plentyn yn ystod y cyfnod rhyfeddol heriol hwn.

“Rydyn ni wedi cyhoeddi’r datganiad polisi heddiw er mwyn rhoi sicrwydd ac i roi gwybod i bobl beth i’w ddisgwyl – byddwn yn rhoi cyfarwyddyd pellach i benaethiaid, athrawon, cymorthyddion addysgu, yr holl staff addysg a rhieni a gofalwyr yn nes ymlaen yn ystod yr wythnos hon.”

Dywedodd Prif Weithredwr Parentkind John Jolly: “Rydyn ni’n croesawu’r eglurder sydd wedi’i roi i rieni a gofalwyr gan y Gweinidog Addysg am y disgwyliadau ohonynt yn ystod y cyfnod yma o gau ysgolion ac yn canmol yr adnoddau digidol ychwanegol sydd wedi bod ar gael i helpu rhieni i gefnogi addysg eu plant gartref.

“Ond ymhellach rydyn ni’n gwerthfawrogi’r neges nad oes disgwyl i rieni fod yn athrawon, a bod pob teulu’n cofio mai iechyd meddwl a chorfforol da yw’r elfen hanfodol i’w blaenoriaethu drwy gydol y cyfnod o ddysgu gartref.”

 

%d bloggers like this: