03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyffro a gwenu wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol

ROEDD digonedd o gyffro a gwenu wrth i ysgolion cynradd yn Abertawe ddechrau croesawu rhai o’u disgyblion ieuengaf yn ôl i’r ysgol yr wythnos hon.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen (3 i 7 oed) yn dychwelyd i’r ysgol yr wythnos hon.

Mae mesurau ar waith i sicrhau bod pob ysgol mor ddiogel â phosib ac mae penaethiaid yn dweud eu bod wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan staff a rhieni.

Meddai Alison Williams, Pennaeth Ysgol Gynradd Craigfelin:

“Rydym wrth ein boddau’n gweld cynifer o wynebau hapus y bore ‘ma, y plant a’r rhieni hefyd.

“Unwaith eto mae ein cymuned wedi bod yn wych drwy’r cyfnod diweddaraf o ddysgu o bell a diolch i ymdrechion arbennig ein teuluoedd a’n staff ymroddedig, mae pob un o’n disgyblion y cyfnod sylfaen wedi dychwelyd i’r ysgol yn awyddus i weld eu ffrindiau a mwynhau eu gweithgareddau.”

Meddai Caroline Morgan, Pennaeth Ysgol Ystumllwynarth, fod gweld y plant yn dychwelyd yn emosiynol iawn.

Ychwanegodd:

“Mae’r rhieni wedi bod yn wych, maen nhw mor gefnogol o’r ysgol. Rwy’n credu bod y cyfnod clo hwn wedi bod yn anoddach iddyn nhw ac i’r plant na’r cyfnod clo diwethaf, felly rwy’n credu bod pawb yn awyddus i weld y plant yn dychwelyd.

“Bydd rhieni yn poeni am eu plant yn dychwelyd i’r ysgol, sy’n ddealladwy, ond rwy’n credu bod y rhieni’n hyderus fod gennym yr holl fesurau diogelwch priodol ar waith a bod amgylchedd dysgu’r ysgol yn parhau i fod mor ddiogel â phosib o ran COVID.

Dywedodd Dylan Saer, Pennaeth Ysgol Gynradd y Crwys:

“Mae wedi bod yn wych croesawu disgyblion yn ôl i’r ysgol ac rwyf wrth fy modd o weld bod teuluoedd yn ymddiried ynom, gyda phresenoldeb 100%.

“Hoffwn ddiolch i’n staff ymroddedig a phroffesiynol sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr ysgol mor ddiogel a chroesawgar ag y gall fod yn yr amserau digynsail hyn. Diolch hefyd iddynt am eu hymdrechion i sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu yn ystod y cyfnod clo.

“Gobeithiwn y bydd popeth yn mynd yn dda dros y pythefnos a hanner nesaf, a fydd yn sicrhau y gallwn groesawu ein disgyblion hŷn yn ôl cyn bo hir.”

Ar hyn o bryd, bydd disgyblion cynradd hŷn a disgyblion ysgolion uwchradd yn parhau i gael eu haddysgu gartref, ond mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi nodi y gallai holl ddisgyblion ysgolion cynradd a rhai disgyblion ysgolion uwchradd ddechrau dychwelyd i’r ysgol o 15 Mawrth.

Unwaith eto, cysylltir â theuluoedd yn uniongyrchol cyn i unrhyw newid gael ei wneud.

%d bloggers like this: