04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfle i bobl ifanc Ceredigion ymgeisio am fwrsari o £1,000

YN dilyn llwyddiant y blynyddoedd blaenorol, mae Gwasanaeth Ieuenctid
Ceredigion wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cyfle gan gwmni West
Wales Holiday Cottages i gefnogi pobl ifanc gyda bwrsari ariannol eleni
eto.

Bwriad y bwrsari yw cynnig cyfle gwerth £1,000 i bobl ifanc rhwng 11-25
fedru ymgeisio amdano, i’w helpu gyda’u dyheadau yn y dyfodol.
Dewisir y cais neu geisiadau llwyddiannus gan Fforwm Ieuenctid
Ceredigion, sy’n banel o bobl ifanc o bob rhan o Geredigion.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Mercher, 10 Awst
2022. Cysylltwch â Gwion Bowen ar 07790 812939 neu e-bostiwch
Gwion.Bowen@ceredigion.gov.uk am ffurflen ymgeisio.

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion:

“Rydym yn ddiolchgar iawn ac yn werthfawrogol i
West Wales Holiday Cottages am roi’r cyfle hwn i ni ar gyfer pobl ifanc
yng Ngheredigion eleni eto. Fel ein hunain, mae West Wales Holiday
Cottages yn cydnabod y gall nifer o bobl ifanc sy’n byw yng Ngheredigion
brofi anawsterau wrth gael mynediad at hyfforddiant, cefnogaeth a
gweithgareddau cymdeithasol oherwydd materion economaidd-gymdeithasol.

Roedd y fwrsariaeth yn hynod o lwyddiannus y llynedd, gyda thri pherson
ifanc yn cael cymorth ariannol i’w helpu gyda’u prosiectau. Rydym yn
gobeithio bydd y fwrsariaeth yn llwyddiant eto eleni, ac y bydd o fudd i
berson neu pobl ifanc yng Ngheredigion.”

Oes angen cymorth ariannol arnoch i gyrraedd eich nodau? A fyddech chi’n
elwa o gymorth ariannol i’ch helpu gyda hyfforddiant neu offer sydd eu
hangen ar gyfer eich galwedigaeth ddewisol? Ydych chi’n chwilio am
gefnogaeth i gychwyn eich menter eich hun? Neu ydych chi’n aelod o grŵp
cymunedol ac yn chwilio am gymorth ariannol i brynu offer neu adnoddau?

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i
chi, ewch draw i’w tudalen Facebook, Instagram neu Twitter ar
@GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar
PorthCymorthCynnar@ceredigion.gov.uk.

%d bloggers like this: