04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfle i chi ddweud eich dweud am gynigion cyllidebol

ANOGIR preswylwyr y ddinas i ddweud eu dweud am flaenoriaethau cyllidebol Cyngor Abertawe ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae’r Cabinet wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar raglen uchelgeisiol a fydd yn buddsoddi £22m mewn ffyrdd, glanhau strydoedd, sbwriel a gwelliannau amgylcheddol yn ogystal â hwb ariannol mawr ar gyfer ysgolion, gofal cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn a chefnogaeth i blant diamddiffyn.

Mae’r galw am ofal cymdeithasol yn cynyddu o hyd o ganlyniad i’r pandemig ac mae’r cyngor yn gwario mwy i gefnogi mesurau i fynd i’r afael â thlodi a phroblemau fel cam-drin domestig.

Yn ôl yr ymgynghoriad, a fydd yn dechrau heddiw ac yn dod i ben ar 15 Chwefror, cynigir gwneud buddsoddiad o £60m ychwanegol mewn gwasanaethau sy’n effeithio ar fywydau preswylwyr lleol bob dydd dros y pedair blynedd nesaf.

Er y bydd y cyngor yn cael arian ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf, nodwyd gwerth £8.3m o arbedion effeithlonrwydd a moderneiddio gwasanaethau hefyd i helpu i wrthbwyso ymhellach y galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol, chwyddiant a chostau eraill.

Ni ddisgwylir unrhyw ddiswyddiadau eleni, diolch i ymdrechion a wnaed gan y cyngor i ddiogelu swyddi a gwasanaethau a buddsoddi ynddynt.

Disgwylir hefyd i fuddsoddiad parhaus y cyngor mewn cyfleusterau newydd i ysgolion ar draws Abertawe – sydd eisoes yn werth £150m – barhau gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Cynhelir yr ymrwymiad i sicrhau bod costau datblygiadau mawr yn y ddinas yn parhau i gael eu hariannu’n llawn ac nad ydynt yn dibynnu ar breswylwyr; gyda dim cost eleni neu am y bum mlynedd nesaf o leiaf.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, “Croesewir cynnydd mawr ei angen mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar yr adeg hon. Mae’n golygu y gallwn fynd i’r afael â rhai o’r problemau a achoswyd oherwydd blynyddoedd o galedi gan lywodraeth y DU.”

Ychwanegodd y Cyng. Stewart, “Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif, er y cynnydd mewn cyllid eleni, y bydd angen cyfraniad oddi wrth dreth y cyngor ar bob awdurdod lleol o hyd. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU yn cynnig y dylai cynghorau gynyddu treth y cyngor ar lefelau mwy nag sydd wedi’i ganiatáu ers blynyddoedd lawer.

“Fodd bynnag, oherwydd rheoli ariannol llym yn Abertawe, rydym yn bwriadu gosod lefel treth y cyngor sy’n deg ond sydd hefyd yn adlewyrchu’r pwysau ychwanegol ar breswylwyr a theuluoedd o ganlyniad i’r pandemig.

“Byddwn yn sicrhau nad ydym yn gofyn am arian oni bai fod angen ar gyfer buddsoddiadau pellach mewn blaenoriaethau sy’n effeithio ar ein bywydau bob dydd a chaiff pob ceiniog ei wario ar addysg, ysgolion, gofal cymdeithasol, gofal plant neu flaenoriaethau cymunedol.”

Ychwanegodd, “Y flwyddyn nesaf, ceir buddsoddiadau cyfwerth â £4,000 ar gyfer pob teulu yn Abertawe, sy’n dangos y buddsoddiad mwyaf erioed yn y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd.

“Byddwn hefyd yn cyflwyno rhaglen gynhwysfawr o gefnogaeth i helpu adferiad yr economi leol, cefnogi a chadw swyddi, creu cyfleoedd a helpu busnesau i ddatblygu a lleihau tlodi yn ein cymunedau.

“Mae’r cyngor wedi dod yn fwy clyfar, yn gryfach ac yn fwy effeithlon yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi lleihau’r gost fenthyca gyfartalog, gwariant swyddfa gefn, gwasanaethau mwy modern a mân-reolau diangen ac mae hyn wedi helpu i dorri costau’r hyn rydym yn ei wneud o filiynau o bunnoedd. Wrth i ni newid ein ffordd o weithio’n sylweddol, rydym wedi llwyddo i arbed mwy na £70m yn y pum mlynedd diwethaf yn unig.”

Ystyrir adborth o’r ymgynghoriad gan y Cabinet yn ystod ei gyfarfod ar 18 Chwefror cyn i gyllideb derfynol gael ei chynnig i’r Cyngor Llawn ar 4 Mawrth.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gyfer y gyllideb ewch i https://www.abertawe.gov.uk/arolwgygyllideb

%d bloggers like this: