03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfle i ddweud eich dweud ar Gam Pedwar Prosiect Tirlithriad Tylorstown

MAE cam nesaf prosiect Tirlithriad Tylorstown yn cynnig adfer y domen sy’n weddill ar ochr y bryn. Bellach, mae modd i breswylwyr weld rhagor o fanylion a dweud eu dweud ar y gwaith sydd ar ddod mewn ymgynghoriad cyhoeddus.  

Bellach, mae modd i breswylwyr ddweud eu dweud ar y cynigion hyd at ddydd Mercher, 2 Chwefror.Mae modd i breswylwyr weld y cynlluniau a’r deunyddiau diweddaraf ar gyfer Cam Pedwar a llenwi arolwg. Bydd yr holl adborth yn helpu i lunio cyflwyniad cynllunio’r Cyngor.

Digwyddodd y tirlithriad ar ochr bryn Llanwynno yn ystod tywydd garw digynsail Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Llithrodd tua 60,000 metr ciwbig o ddeunydd rwbel gan rwystro dyffryn yr afon, niweidio carthffos fudr, gorchuddio prif bibell ddŵr strategol a gorchuddio llwybr troed/beicio i’r gymuned.

Cynnydd cyfredol o ran y Cynllun Adfer

Ers hynny, gwnaed cynnydd sylweddol tuag at Gynllun Adfer pedwar cam, gan gynnwys gwaith draenio a chlirio cychwynnol brys (Cam Un), atgyweirio argloddiau (Cam Dau, erbyn Mehefin 2021), symud deunydd i’r safleoedd derbynyddion ac adfer llwybrau (Cam tri, erbyn Mehefin 2021).

Bu gwaith ychwanegol i sefydlogi’r llethr, sy’n  canolbwyntio ar ochr mynydd dyffryn y gogledd-ddwyrain uwchben y llwybr caeedig sy’n weddill yn dilyn Cam Tri. Dechreuodd y gwaith ar y safle yn haf 2021 ac fe’i gwblhawyd erbyn diwedd y flwyddyn.

Ymgynghoriad Cam Pedwar – sicrhau bod y llethr yn ddiogel

Mae Cam Pedwar yn cynnig symud y mwyafrif o’r deunydd i dir gwastad ar ben y mynydd er mwyn ei wasgaru a’i dirlunio, ynghyd â chwblhau gwaith tirlunio. Wedyn, bydd y deunydd sy’n weddill ar ochr y bryn yn cael ei ailraddio, gyda system ddraenio ar waith i reoli llif y dŵr. Bydd y gwaith yn adfer ochr y bryn yn ddiogel ac yn ailsefydlu llystyfiant ar safle’r derbynnydd, a fydd yn cael ei reoli’n ofalus yn y dyfodol.

Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth:

“Mae bron i ddwy flynedd bellach ers i Storm Dennis ddod â thywydd garw a digynsail i Rondda Cynon Taf, gan achosi’r tirlithriad mawr yn ardal Tylorstown. Mae atgyweirio’r difrod, ynghyd â gweithio tuag at ddiogelu’r safle at y dyfodol, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf gwnaed cynnydd sylweddol ar y safle – o’r gwaith draenio a chlirio cychwynnol yn yr wythnosau yn dilyn y tirlithriad i symud yr holl ddeunydd a lithrodd yno o lawr y dyffryn, ail-alinio’r afon ac ailosod dau o’r llwybrau trwy’r ardal. Cyn y Nadolig, aeth gwaith ychwanegol rhagddo i sefydlogi’r llethr uwchben yr un llwybr troed a oedd yn dal i fod ar gau.

“Mae modd i breswylwyr ddweud eu dweud ar gam nesaf y gwaith, sy’n ymwneud â symud y deunydd sy’n weddill o ochr y bryn. Mae’r Cyngor bellach yn cynnal Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio i lywio ei gais cynllunio, a fydd yn cael ei gyflwyno’n ffurfiol i’w ystyried. Mae croeso i breswylwyr edrych ar y cynlluniau’n fanwl, dweud eu dweud trwy arolwg, neu gofrestru diddordeb ar gyfer achlysuron cyhoeddus rhithiol oherwydd sefyllfa ddiweddaraf y pandemig.

“Rydyn ni’n annog preswylwyr i fwrw golwg ar yr wybodaeth i ddysgu rhagor am Gam Pedwar, a dweud eu dweud cyn dyddiad cau’r ymgynghoriad ddydd Mercher, 2 Chwefror.”

%d bloggers like this: