04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfle olaf i ddweud eich dweud ar Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr

DIM ond wythnos sydd ar ôl i breswylwyr rannu eu barn ar gynlluniau uchelgeisiol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Nod Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yw cyflwyno cyfres o welliannau sylweddol yn ystod y 10 mlynedd nesaf ac mae’n cynnwys cynigion megis creu sgwâr newydd yn y dref, symud Coleg Pen-y-bont ar Ogwr i ganol y dref, trawsnewid adeiladau gwag ac adfeiliedig yn siopau a thai newydd, gwella mynediad i gerbydau, ail-leoli’r orsaf heddlu, adeiladu mynediad newydd i’r orsaf drenau, cyflwyno tirlun newydd a llawer mwy.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio;

”Mae’r cynlluniau uchelgeisiol hyn wedi’u dylunio i greu ardaloedd agored gwell o fewn canol y dref, a cheisio cydbwysedd newydd rhwng manteision creu ardaloedd i gerddwyr yn unig a gofynion mynediad gwell.

Y nod yw cynyddu’r nifer o bobl sy’n siopa, gweithio, byw, ymweld ac yn mwynhau canol y dref gan ddefnyddio dull ‘parthol’ i greu cyfleoedd manwerthu, creu ardaloedd swyddfa a masnachol newydd, cyflwyno gweithiau cyhoeddus newydd a darparu cyfleusterau trafnidiaeth gwell.

Annogir preswylwyr i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed i’n cynorthwyo ni i lywio’r cynlluniau hyn er mwyn trawsnewid ac adfer tref Pen-y-bont ar Ogwr fel calon gref y gymuned a sicrhau ei dyfodol yn yr hirdymor.”

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Llun 1 Mawrth. Am ragor o wybodaeth ac i ddweud eich dweud, ewch i dudalen we Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

%d bloggers like this: