03/29/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Burry Port Harbour. Pic Jeff connell 30/03/15

Cyfleusterau parcio ychwanegol yn Harbwr Porth Tywyn

MAE mwy o arian yn cael ei fuddsoddi mewn cyfleusterau parcio gwell yn Harbwr Porth Tywyn.

Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n gyfrifol am y gwaith hwn a fydd yn trawsnewid tir nad yw’n cael ei ddefnyddio digon yn barth parcio hygyrch ychwanegol gyda thua 100 a mwy o leoedd ar ochr ddwyreiniol yr harbwr, a bydd yr arwynebau a’r lleoedd sy’n bodoli eisoes hefyd yn cael eu huwchraddio.

Bydd mannau parcio i’r anabl yn cael eu darparu mewn lleoliad gwych gyda golygfeydd panoramig a bydd cyfleusterau gwefru E-feiciau a fydd yn gwella’r ddarpariaeth amgylcheddol a beicio.

Bydd gan gartrefi modur hefyd fynediad i rai mannau parcio yn ystod y dydd, o amgylch ardal yr Harbwr, ac mae cynlluniau a cheisiadau am gyllid ar gyfer datblygiadau pwrpasol ar hyd yr arfordir ehangach hefyd ar y gweill.

Bydd gan y maes parcio system ddraenio gynaliadwy newydd ynghyd â wyneb ffordd gwell a fydd yn sicrhau defnydd trwy gydol y flwyddyn.

Ariennir y prosiect ar y cyd gan y Cyngor a chynllun Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Pennaeth Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin, Ian Jones:

“Ar hyn o bryd mae arwyneb y maes parcio i’r dwyrain o’r Harbwr yn raean rhydd sy’n arwain yn hawdd at dyllau ac mae llifogydd yn broblem yno’n rheolaidd, felly bydd y gwelliant hwn yn cynnig maes parcio mwy modern, cynaliadwy a deniadol i’n hymwelwyr. Bydd hefyd yn cyd-fynd â’r meysydd parcio presennol yn yr harbwr ac ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin.”

Dyma’r buddsoddiad diweddaraf mewn cyfres hir o fuddsoddiadau gwerth cyfanswm o £2m gan y cyngor i gynnal a chadw ac adfer yr harbwr hanesyddol ac un o fannau prydferth mwyaf poblogaidd y sir.

Mae’r gwaith o adfer waliau’r harbwr (rhestredig Gradd II), wedi’i wneud a’i gwblhau dan arweiniad CADW.

Bydd yn ychwanegu at y buddsoddiad a wnaed dros y blynyddoedd blaenorol pryd buddsoddodd y Cyngor mewn pontynau newydd, ynghyd â chynnal a chadw ac uwchraddio rheiliau a phont yr harbwr.

Mae gweithredwr lleol wedi cael y brydles ac wedi agor caffi a thoiledau cyhoeddus ar ochr ddwyreiniol yr Harbwr, ac yn ddiweddar mae The Marine Group (TMG) wedi dechrau adnewyddu hen swyddfa harbwr yr RNLI i greu tŷ coffi ar lan yr harbwr.

Mae cyfleusterau talu ac arddangos newydd wedi’u gosod i fod o gymorth o ran rheoli parcio cyn cynllun adfywio ehangach gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn trawsnewid yr harbwr drwy gymysgedd o dai a llefydd masnachol a hamdden ar ryw 13 erw o safle datblygu.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru:

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r rhan bwysig sydd gan amwynderau twristiaeth lleol o ran profiad cyffredinol rhywun pan fyddant ar daith undydd neu ar wyliau. Does dim llawer o bobl yn sylwi ar y cyfleusterau hyn ond maent yn rhan bwysig o brofiadau pobl pan fyddant yn ymweld â Chymru, yn ogystal â bod o fudd i’r rhai sy’n byw yn yr ardal.

“Bydd y £2.9m o gyllid newydd ar gyfer cronfa Y Pethau Pwysig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau a fydd yn ein helpu i wneud ein cyrchfannau yn fwy hygyrch a chynaliadwy, ynghyd â datblygu twristiaeth er lles Cymru.”

%d bloggers like this: