04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyflogwyr Castell-nedd Port Talbot cael eu hannog i gynnig swydd i bobl ifanc

MAE cyflogwyr ar draws Castell-nedd Port Talbot yn cael eu hannog i gynnig lleoliad swydd i bobl ifanc – gyda’r swydd yn cael ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth y DU fel rhan o’i chynllun Kickstart newydd.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu fel Cynrychiolydd Porth (asiant lleol) ar gyfer rhaglen Kickstart yn y fwrdeistref sirol.

Lansiwyd y rhaglen creu swyddi, dan olygyddiaeth yr Adran Waith a Phensiynau (DWP), yn 2020 i gefnogicwmnïau i gynnig lleoliadau gwaith chwe mis o hyd i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o ddioddef diweithdra hirdymor.

Bydd cyllid ar gael i dalu 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pob swydd am 25 awr yr wythnos, ynghyd â’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol cysylltiedig y mae angen i gyflogwyr eu talu a chyfraniadau lleiafswm cofrestru awtomatig.

Bydd cyflogwyr yn derbyn £1,000 am bob lleoliad i gefnogi talu am unrhyw gostau sefydlu, hyfforddi neu offer angenrheidiol.

Yn ogystal bydd Tîm Cyflogadwyedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn darparu pecyn llawn o gefnogaeth ar gyfer y lleoliad a’r cyflogwr, drwy gyfrwng adolygiadau a sesiynau cefnogi.

Ar gyfer pob swydd ‘Kickstarter’, bydd y llywodraeth yn:
Talu cost 25 awr o waith bob wythnos ar Isafswm Cyflog Cenedlaethol o:

£4.55 i rai dan 18 oed; £6.45 i rai rhwng 18 ac 20 oed a £8.20 i rai rhwng 21 a 24 oed

Bydd modd i gyflogwyr ychwanegu at y taliad hwnnw os dymunant.

Meddai’r Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy:

“Bydd swyddi’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i bobl ifanc adeiladu’u sgiliau yn y gweithle ac ennill profiad i wella’u cyfle o ddod o hyd i waith hirdymor.

“Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau ledled y wlad ac mae’r DWP yn cydnabod fod ceisiadau am fudd-daliadau i bobl ifanc wedi codi eisoes, a bu cynnydd mewn diweithdra ymysg pobl rhwng 18 a 24 oed.

“Y gobaith felly yw y bydd gwaith y Cyngor o hybu rhaglen Kickstart a chefnogaeth gan gyflogwyr lleol yn cyfrannu at ysgafnhau baich yr effaith ar bobl ifanc o ran anawsterau economaidd presennol, ac y gall gynnig cyflogaeth o safon a chyfleoedd ar gyfer gyrfa yn eu dyfodol.”

 

%d bloggers like this: