BYDD busnesau, prentisiaid a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru yn dod ynghyd yn ysgod yr Wythnos Brentisiaethau, Chwefror 7-13, i ddathlu’r lles y mae prentisiaethau’n ei wneud.
Mae wythnos o ddigwyddiadau a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos sut y gall prentisiaethau roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i bobl ar gyfer gyrfa werth chweil a sut y gall busnesau ddatblygu gweithlu dawnus sydd â sgiliau parod ar gyfer y dyfodol.
Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), sy’n cynrychioli darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith ledled y wlad, wedi trefnu tri digwyddiad rhithwir yn ystod yr wythnos i ddangos pa mor amrywiol yw prentisiaethau.
Cynhelir y digwyddiadau, sydd am ddim, ar lein ar MS Teams. Cânt eu cyflwyno mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Gyrfa Cymru a Cymru’n Gweithio, Engage to Change, Wates Construction a Thŷ’r Cwmnïau.
Bydd pob digwyddiad yn cynnwys gwybodaeth am brentisiaethau sydd ar gael, astudiaethau achos am gyflogwyr, y gefnogaeth sydd ar gael i ddysgwyr, astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog a sesiwn holi ac ateb.
Cynhelir ‘Cefnogi Pobl Anabl i fynd yn Brentisiaid’ ddydd Mawrth, Chwefror 8, ‘Cefnogi Merched i fynd i’r Diwydiant Adeiladu’ ddydd Mercher, Chwefror 9 a ‘Cefnogi Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i fynd yn Brentisiaid’ ddydd Iau, Chwefror 10.
Dywedodd Humie, Arweinydd Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth NTfW:
“Mae prentisiaethau’n ffordd wych o ennill cyflog a dysgu’r sgiliau y mae ar gyflogwyr eu hangen. Mae’n gyffrous cael rhannu cyfleoedd am brentisiaethau a dangos sut mae cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn helpu pobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i fynd yn brentisiaid.
“Mae ein digwyddiadau Prentisiaethau i Bawb yn addas i unrhyw un sy’n chwilfrydig am brentisiaethau ac sydd am gymryd y cam nesaf i roi hwb i’w gyrfaoedd.”
Mae Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu’r rhaglen brentisiaethau yng Nghymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn annog busnesau i wneud dewis doeth trwy recriwtio prentis neu gynyddu sgiliau gweithiwr presennol.
Unrhyw gyflogwyr sydd am ddarganfod sut y gall eu busnes elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol fynd i:
https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/prentisiaethau neu ffonio 03301 228338.
Pa un bynnag a yw rhywun yn dechrau canfod ei ffordd ym myd gwaith neu’n cymryd camau tuag at newid gyrfa, mae’n bosib mai prentisiaeth yw’r ateb, yn ôl Llywodraeth Cymru.
More Stories
Noson Bocsio Coler Wen yn codi dros £1,000 ar gyfer gwasanaethau nyrsio plant
Yn eisiau! Ffermwr brwd, galluog a chymwys, wedi ymrwymo i ffermio cynaliadwy, ar gyfer cyfle i ffermio cyfran yng Ngorllewin Cymru
Dros 1500 o ffermydd yng Nghymru yn cael cyfran o £161m