04/23/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyflwyno Cynllun Gweithredu i gyflawni carbon sero-net erbyn 2030

MAE cynllun gweithredu wedi cael ei gyflwyno sy’n nodi sut y bydd Ceredigion yn dod yn Awdurdod Lleol carbon sero-net.

Daw hyn yn dilyn addewid Cyngor Sir Ceredigion yn ystod cyfarfod o’r Cyngor llawn yn 2019 i leihau allyriadau a chyflawni carbon sero-net erbyn 2030.

Yn ychwanegol at hyn, ar 5 Mawrth 2020, cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion argyfwng hinsawdd byd-eang, gan ymrwymo i ymateb i’r her fwyaf sylweddol sy’n wynebu ein sir a’n planed.

Bydd y cynllun gweithredu hwn, a gyflwynwyd i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion ar 15 Mehefin 2021, yn cefnogi’r gwaith o roi camau gweithredu a mesurau ar waith i leihau allyriadau carbon sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Mae’r cynllun gweithredu yn nodi camau tymor byr, tymor canolig a thymor hir. Mae’r camau tymor byr yn cynnwys ymgorffori’r cynllun gweithredu ym Mlaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor, adolygu a gyrru cynlluniau a nodwyd eisoes yn eu blaenau, a chysylltu â rhanddeiliaid. Yn y tymor canolig, bydd gwaith yn cael ei ehangu i fonitro allyriadau o symudedd a thrafnidiaeth, caffael, defnydd tir ac adeiladau. Unwaith y bydd ôl troed carbon sylfaenol cyflawn wedi’i sefydlu, bydd angen nodi prosiectau a chynlluniau a fydd yn cyfrannu at ostyngiad mewn allyriadau a gellir ystyried gwrthbwyso carbon hefyd.

Yn y tymor hir, bydd y cynllun gweithredu sero-net yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn rheolaidd i sicrhau cynnydd. Yn ogystal, bydd rhagor o brosiectau yn cael eu cyflawni sy’n darparu gostyngiadau carbon sylweddol. Y nod yw sicrhau y bydd arferion gweithio carbon sero-net yn cael eu hymgorffori ledled yr Awdurdod Lleol, a bydd yr holl gynlluniau, prosiectau a datblygiadau newydd yng Ngheredigion yn cael eu cyflawni mewn modd sy’n cyfrannu at ein huchelgeisiau sero-net.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd y Panel Rheoli Carbon: “Mae ein cymdeithas gyfan – ein gwareiddiad byd-eang cyfan – mewn tiriogaeth anhysbys ar y mater hwn. Nid oes gan neb yr holl atebion eto, gan nad yw’r hil ddynol wedi bod yma o’r blaen. Ond os na wynebwn yr her a gwthio ffiniau gwybodaeth ddynol a’r dyfeisgarwch i’w datrys, bydd y realiti anochel yn ein hwynebu ni, ein plant a’n hwyrion. Mae yna gyfrifoldeb arnom ni mewn llywodraeth leol i chwarae’n rhan. Rwy’n hynod o ddiolchgar i bawb yn y Cyngor sydd wedi gweithio ar y cynllun hwn. Mae wedi bod yn ymdrech ar y cyd rhwng sawl adran yn y cyngor, oherwydd mae’r agenda hon yn galw am gydweithio ledled y cyngor.

Ychwanegodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Hoffwn ddiolch i’r Panel Rheoli Carbon o dan Gadeiryddiaeth y Cynghorydd Alun Williams am eu gwaith caled. Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae ein hôl-troed carbon wedi gostwng mwy na 40% ac mae Ceredigion yn arwain y ffordd yng Nghymru gan fod allyriadau carbon gweithredol wedi lleihau 27% yn y sir dros y bum mlynedd ddiwethaf. Mae hwn yn gam rhagorol i’r cyfeiriad cywir wrth i ni geisio gwarchod ein hamgylchedd naturiol.”

Mae’r Cynllun Gweithredu Sero-Net yn cefnogi Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan: https://cyngor.ceredigion.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=148&MId=169&LLL=1

%d bloggers like this: