04/19/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyflwyno gwasanaeth 111 yn y Gogledd

MAE’R Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi croesawu camau i gyflwyno gwasanaeth cyngor iechyd 111 yn y Gogledd.

O heddiw (dydd Mawrth 22 Mehefin) ymlaen, bydd modd i bobl yn y Gogledd ffonio 111 i gael cyngor meddygol ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys ac i gael at eu gwasanaeth y tu allan i oriau.

Mae’r llinell gymorth 111 yn wasanaeth am ddim sy’n darparu cyngor a mynediad at driniaethau. Caiff y gwasanaeth ei reoli gan dîm o staff proffesiynol a fydd yn helpu defnyddwyr i gael y driniaeth gywir ar yr amser cywir ac yn y lle cywir. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae cyngor hefyd ar gael ar-lein yn www.111.wales.nhs.uk.

Mae’r gwasanaeth nawr wedi’i gyflwyno ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru, ac eithrio Caerdydd a’r Fro. Mae disgwyl ei gyflwyno yno yn nes ymlaen yn y flwyddyn ariannol hon.

Ar hyn o bryd, gall trigolion Caerdydd a Bro Morgannwg gael cyngor dros y ffôn drwy ffonio llinell gofal brys ‘CAV 24/7’ ar 0300 10 20 247 neu NHS Direct Cymru on 0845 46 47 ar gyfer cyngor eichyd cyffredinol.

Dywedodd Eluned Morgan:

“Rwy’n falch iawn y bydd y llinell gymorth 111 nawr ar gael, yn rhad ac am ddim, ar draws y Gogledd, ac y bydd y gwasanaeth ar waith ledled Cymru gyfan erbyn mis Ebrill 2022.

Bydd y gwasanaeth 111 yn helpu pobl i gael y gwasanaethau mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion, ac yn lleihau’r pwysau ar ein gwasanaeth 999. Pan fo galw mawr ar y GIG, mae’r gwasanaeth yn arbennig o fuddiol o ran sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau mwyaf priodol.

Gyda chymorth y wefan 111, bydd y gwasanaeth rhadffôn hwylus hwn yn ei gwneud yn haws i unrhyw un gael at y cymorth sydd ei angen arno.”

%d bloggers like this: