09/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyflwyno y llyfr ‘Gwynoro a Gwynfor’

Pam cyhoeddi’r llyfr sy’n croniclo brwydrau ffyrnig Caerfyrddin 1966-74  
Dyma fideo deng munud o hyd, sy’n dweud pam i ni gyhoeddi’r llyfr, Gwynoro a Gwynfor. Mae’r llyfr yn croniclo’r brwydrau gwleidyddol yn etholaeth Caerfyrddin rhwng 1966 a 1974, gan ganolbwyntio ar y frwydr bersonnol rhwng Gwynoro Jones a Gwynfor Evans, y ddau a fu’n Aelodau Seneddol yn yr etholaeth yn y cyfnod dan sylw. Mae’r llyfr yn dangos yr atgasedd a’r chwerwder a oedd mor amlwg drwy’r cyfnod, nid yn unig rhwng y ddau unigolyn ond rhwng eu pleidiau â’u cefnogwyr. Go brin bod Cymru wedi gweld cyfnod mor chwerw yn wleidyddol.

Mae’r llyfr yn dweud stori Etholiad Cyffredinol 1966, pan ennillodd Plaid Cymru ei sedd seneddol gynta, trwy Gwynfor Evans, tair blynedd o frwydro gwleidyddol yn arwain at Etholiad `Cyffredinol 1970, pan gipiodd Gwynoro’s sedd oddi ar Gwynfor. Dyma gyfnod materion fel Arwisgo Tywysog Cymru, ymgyrchoedd bomio i enill cenedlaetholdeb a bwriad Gwynfor i ymweld a Fietnam yn stod y rhyfel rhwng y wlad honno â’r Unol Daleithiau. Caiff y straeon yma sylw yn y llyfr.
Yn 1974 roedd y ddau yn brwydro yn erbyn ei gilydd eto, nid unwaith ond ddwywaith. Bu dwy Etholiad Cyffredinol y flwyddyn honno. Gwynoro enillodd y gynta, o dair pleidlais yn unig. Gwynfor ennillodd yr ail.

Wrth adrodd stori’r ddau unigolyn, mae Gwynoro hefyd yn esbonio agwedd y Blaid Lafur tuag at ddatganoli ac yn sôn iddo gael ei ddad-rithio gan y Blaid Lafur yn ei flynyddoedd cynta fel Aelod Seneddol.

Daw’r llyfr i ben wrth i Gwnoro asesu ffordd mae’n ymateb heddi i ddigwyddiadau’r cyfnod, sy’n cynnwys ystyried ei berthynas gyda Gwynfor â’i agwedd tuag at ‘annibyniaeth’ i Gymru. Daw i’r amlwg nad oedd y ddau mor wahanol a hynny i’w gilydd wedi’r cyfan.

%d bloggers like this: