04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyflwynwyd Hysbysiad Cosb Benodedig i drigolyn yng Nghaerffili dros fesurau coronafeirws

MAE Cyngor Caerffili yn mynd ati i gynorthwyo busnesau i weithredu yn unol â’r canllawiau newydd ac yn gweithredu yn erbyn y rhai nad ydynt yn cydymffurfio.

Cafwyd cwyn gan drigolyn pryderus a roddwyd gwybod am unigolyn yn torri canllawiau COVID-19. Ymwelodd Swyddogion Gorfodi COVID-19 a Safonau Masnach â’r eiddo ddydd Gwener 5 Chwefror 2021 a darganfod bod yr unigolyn yn gweithredu busnes o’i eiddo.

Cafodd dyn 26 oed o ardal Parc Morgan Jones yng Nghaerffili ei ddal yn torri gwallt mewn sied yn ei ardd gefn a oedd wedi’i sefydlu fel siop barbwr. Cyflwynwyd Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £1,000 i’r dyn a dwedwyd wrtho am beidio â pharhau i ddarparu’r gwasanaeth ar unwaith.

Mae Cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn nodi bod gwasanaethau cyswllt agos fel trin gwallt wedi’i gwahardd rhag gweithredu dan Gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4.

Mae’r Timau Safonau Masnach, Trwyddedu ac Iechyd yr Amgylchedd wedi bod yn ymweld yn rhagweithiol â safleoedd sy’n gallu parhau i fod ar agor dan Gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 ac yn ymateb i adroddiadau o ddiffyg cydymffurfio sydd wedi cynyddu’n sylweddol yn dilyn y cyfyngiadau newydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Rhoddwyd pwerau ychwanegol i wasanaethau Diogelwch y Cyhoedd awdurdodau lleol i weithredu yn erbyn busnesau ac unigolion y darganfyddir eu bod yn torri’r gyfraith a allai arwain at gau safle a chyflwyno hysbysiad cosb benodedig.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am Ddiogelwch y Cyhoedd:

“Rydym yn parhau i gynorthwyo busnesau sy’n gallu gweithredu ar hyn o bryd i ddeall a chydymffurfio â’r gyfraith, mae’r rheolau hyn ar waith i ddiogelu gweithwyr a’r cyhoedd. Yn yr achos hwn, nid oedd yr unigolyn dan sylw yn gweithredu o fusnes sefydledig, fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithredu yn erbyn y rhai y canfyddir eu bod yn torri’r gyfraith.”

I roi gwybod am ddiffyg cydymffurfio, cwblhewch y ffurflen ar y dudalen we, cliciwch yma

%d bloggers like this: