04/20/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfnewidfa fysiau newydd Merthyr Tudful barod i agor

CYFLWYNWYD allweddi cyfnewidfa fysiau newydd Merthyr Tudful i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol gan y prif gontractwr Morgan Sindall cyn agoriad yr adeilad fis nesaf.

Bydd yr holl wasanaethau bws yn trosglwyddo o’r orsaf gyfredol yn Stryd Victoria i’r safle newydd yn Stryd yr Alarch, a fydd hefyd yn cynnwys safle i Heddlu De Cymru, caffi annibynnol Bradleys a siop goffi Milk & Sugar.  Yna, disgwylir i’r gyfnewidfa agor yng nghanol mis Mai.

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Gorffennaf 2019 a’i gwblhau mewn 91 wythnos. Mae’r orsaf gwerth £11m yn gwbl drydanol, gyda chynlluniau i gynyddu ei berfformiad gostwng carbon a hefyd i gael opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus wedi ei thrydaneiddio.

Nid oes cyflenwad nwy – nac unrhyw danwydd ffosil arall – yn yr orsaf fysiau. Mae hyn yn golygu fod holl anghenion yr adeilad – ar gyfer gwresogi, dŵr poeth ac yn y blaen – yn cael eu cyflenwi gan ffynonellau gwyrdd adnewyddadwy.

Mae’r bysiau yn rhedeg ar ddîsl ar hyn o bryd, ond y bwriad yw eu trydaneiddio i gyd, ac mae’r seilwaith mewn lle fel rhan o’r prosiect. Mae’r tacsis yn ‘barod i fynd’, gyda dau dacsi trydan yn barod i’w defnyddio a gorsafoedd gwefru wedi eu gosod.

Cafodd yr allweddi eu trosglwyddo i Ellis Cooper, Prif Weithredwr Dros Dro y Cyngor, a’r Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Alyn Owen gan Reolwr Prosiect Morgan Sindall, Ross Williams.

“Mae’n destament i Morgan Sindall fod y cyfleuster trafnidiaeth 21ain ganrif ffit i bwrpas hwn wedi cael ei ddarparu er gwaethaf heriau pandemig Covid-19,” dywedodd Ellis Cooper.

“Cafodd y prosiect ei ddarparu heb unrhyw rwystrau ac yn brydlon yn ôl y rhaglen a gytunwyd,” ychwanegodd. “Cafodd pob ceiniog o arian Llywodraeth Cymru a fuddsoddwyd yn yr orsaf ei ail-fuddsoddi mewn i gyflenwyr lleol a chontractwyr lleol, gyda thros 95% o’r gadwyn gyflenwi wedi ei lleoli o fewn 25 milltir i’r safle.

“Mae’n wych gweld gweledigaeth a dyluniad y prosiect wedi eu cwblhau gystal, ac i’r safon uchaf, ac rydym wrth ein boddau gyda’r canlyniad.”

Dywedodd Ross Williams fod y contractwr yn ‘freintiedig ac wrth ei fodd i gyflawni prosiect mor nodedig i Ferthyr Tudful.’

Ychwanegodd:

“Wrth ystyried yr heriau yr ydym ni oll wedi eu hwynebu drwy gydol y prosiect hwn, rydym ni i gyd wrth ein boddau i allu dweud ein bod ni wedi ei orffen ac wedi’n gwefreiddio ganddo.

“Edrychwn ymlaen at weld yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i’w llawn botensial gan breswylwyr ac ymwelwyr Merthyr Tudful am flynyddoedd lawer i ddod.”

%d bloggers like this: