03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfradd ailgylchu orau Castell-nedd Port Talbot erioed

MAE ffigurau ar gyfer y flwyddyn a aeth heibio’n dangos fod preswylwyr Castell-nedd Port Talbot wedi cyflawni cyfradd ailgylchu ‘orau erioed’ o 67.56% gan roi’r awdurdod lleol yn yr wythfed safle gorau allan o 22 o gynghorau Cymru.

Mae cyfradd ailgylchu’r cyngor dros y 12 mis diwethaf yn adlewyrchu’r canran o’r holl wastraff a anfonwyd i gael ei ailgylchu, ei gompostio neu’i ailddefnyddio, ac mae’r ffigwr terfynol o 67.56% yn golygu fod preswylwyr a chwsmeriaid masnachu bellach wedi cyflawni cyfradd uchaf erioed yr ardal o ran ailgylchu.

Dros y misoedd nesaf, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwirio holl ffigurau’r cyngor, a bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi’r ystadegau swyddogol yn yr hydref.

Meddai’r Cynghorydd Mike Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Strydlun a Pheirianneg:

“Hoffem ddweud diolch o galon i’n holl breswylwyr a chwsmeriaid masnachu.

“I feddwl, roedd Cymru yn genedl isel o ran ailgylchu ddim mor hir yn ôl, ond nawr rydyn ni’n un o’r tair gwlad uchaf yn y byd o ran ailgylchu, gyda’r Almaen a Singapore. Ac mae’n ffigwr ni o 67.56% yn cael ei ailgylchu’n ein rhoi ni yn wythfed fwrdeistref ailgylchu orau Cymru gyfan.

“Dyw’r 12 mis diwethaf ddim wedi bod yn hawdd i neb ohonon ni, ond yn ogystal â diolch i’n preswylwyr a’n cwsmeriaid masnachu, hoffwn sôn yn arbennig am ein holl griwiau casglu sbwriel, sydd ddim wedi stopio, hyd yn oed yn ystod dyddiau tywyllaf y pandemig yma.”

Er bod cyfradd Castell-nedd Port Talbot o 67.55% yn gyfforddus uwch na tharged presennol Llywodraeth Cymru i 64%, mae mwy o waith i’w wneud wrth i Gymru anelu at y targed nesaf o 70% erbyn 2025.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gweithredu casgliad ailgylchu o’r palmant ar gyfer pob eiddo ledled y Fwrdeistref. Gall preswylwyr ailgylchu plastig a chaniau, cardfwrdd, gwydr, papur a gwastraff bwyd i’w gasglu bob wythnos.

Mae casgliad o wastraff gwyrdd o’r ardd bob pythefnos yn ogystal.

Ac eithrio papur, gwelodd y cyngor gynnydd ar draws pob un o’r deunyddiau y bydd yn eu casglu o’r palmant gyda chynnydd sylweddol mewn gwydr a chardfwrdd, y ddau’n cynyddu gan tua 40% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol

%d bloggers like this: