04/25/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfraddau llog ar fenthyciadau myfyrwyr cael ei gapio am dri mis

MAE Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi fod log a godir ar fenthyciadau myfyrwyr Cymru yn cael ei gapio ar 6.3% am dri mis.

Meddai Mr Miles:

“Mi wnes i ddatganiad ar 13 Mehefin 2022 i gadarnhau’r bwriad i osod cap o 7.3% ar y gyfradd log a godir ar rai o fenthyciadau myfyrwyr Cymru o fis Medi 2022, a hynny am gyfnod o 12 mis.  Yn sgil adolygiad pellach, gallaf ddweud y bydd y gyfradd yn cael ei chapio ar gyfradd is o 6.3% am dri mis o 1 Medi 2022.  Mae’r cap hwn hefyd wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth y DU ar gyfer myfyrwyr Lloegr. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu myfyrwyr rhag cyfraddau llog uchel ar eu benthyciadau, cyfraddau sy’n deillio o lefelau chwyddiant uchel.

Yn ystod y flwyddyn hyd fis Mawrth 2022, cyrhaeddodd y gyfradd chwyddiant sy’n pennu’r llog a godir ar rai o fenthyciadau myfyrwyr 9%. O fis Medi 2022, byddai’r cyfraddau llog yn codi i 12% am gyfnod cyn iddynt gael eu capio. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw’r cyfraddau yn codi’n uwch na chyfradd y farchnad, ac mae wedi gweithredu deirgwaith dros y 10 mis diwethaf i osod cap ar gyfradd benthyciadau a diogelu myfyrwyr.

Rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023, gosodir cap o 6.3% ar gyfradd y benthyciadau a drefnwyd gan israddedigion ers 2012, a chan fyfyrwyr ôl-radd. Mae’n bosibl y gosodir capiau pellach ar gyfraddau os bydd cyfradd y farchnad yn parhau i fod yn is na chyfraddau llog benthyciadau myfyrwyr.

Nid yw newidiadau i gyfraddau llog yn newid ad-daliadau misol benthyciadau myfyrwyr, gan mai cyfran sefydlog o incwm y myfyriwr yw’r swm a delir. Mae ad-daliadau benthyciadau yn ddibynnol ar lefel yr incwm. Dim ond os yw myfyrwyr yn ennill dros drothwy arbennig y maent yn gorfod ad-dalu eu benthyciad, a chaiff unrhyw ddyled sy’n dal heb ei thalu ar ôl tri deg mlynedd ei chlirio.

Ni ddylai costau byw fod yn rhwystr i astudio mewn prifysgol, a dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn darparu’r grantiau costau byw mwyaf hael yn y DU. Ar gyfartaledd, mae llai gan fyfyrwyr Cymru i’w ad-dalu na’u cyfoedion yn Lloegr. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn talu hyd at £1,500 o ddyled pob unigolyn sy’n mynd ati i ddechrau ei had-dalu, cynllun sy’n unigryw o fewn y DU.”

%d bloggers like this: