04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyfranogwr Cymunedau am Waith a Mwy yn cael swydd fel gyrrwr HGV

CAFODD un o drigolion Ceredigion gynnig swydd ddiogel ar ôl derbyn cymorth gan y prosiect Cymunedau am Waith a Mwy.

Cafodd Martin Morse ei drwydded Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) ar ôl sesiwn chwilio am swydd a hyfforddiant gyda’r tîm Cymunedau am Waith a Mwy.

Cofrestrodd Delor, Mentor yn y tîm, Martin ar y prosiect, cynhaliodd sesiwn chwilio am swydd, a sicrhaodd gynnig swydd iddo. Cysylltodd Catrin, Swyddog Cyswllt Cyflogwyr, gyda Snowdon Transport i sicrhau y byddai Martin yn cael cynnig swydd ar ôl iddo gwblhau ei hyfforddiant.

Dywedodd Martin: “Mae’r gefnogaeth yr wyf wedi’i chael gan Delor a Catrin o Gymunedau am Waith a Mwy wedi bod yn anhygoel. Mae’r cyfathrebu gan y ddwy ohonyn nhw wedi bod yn rhagorol. Os oedd angen unrhyw beth neu unrhyw gymorth arnaf o ran chwilio am waith a hyfforddiant, roeddwn yn gwybod y gallwn gysylltu â’r ddwy ohonynt ac roeddent yno i’m cefnogi, dim ots beth.

Aeth yn ei flaen: “Byddwn wir yn argymell y prosiect hwn i unrhyw un sy’n cael trafferth ariannol ac i unrhyw un sy’n chwilio am gymorth i ddod o hyd i waith. Dyma’r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed ac ni fyddwn i lle rydw i heddiw oni bai am yr holl gefnogaeth gan Delor a Catrin. Mae fy sefyllfa ariannol wedi gwella llawer ac rwy’n teimlo’n llawer gwell am fywyd ers cael fy nhrwydded Dosbarth 1. Y bonws yw fy mod yn cael teithio o amgylch y DU a gweld lleoedd nad wyf erioed wedi’u gweld o’r blaen a chwrdd â gwahanol bobl, sydd hefyd yn helpu fy sgiliau cymdeithasol. Alla i ddim diolch digon i’r tîm!”

Dywedodd Matt Ahmed, Rheolwr Gweithrediadau Snowdon Transport Ltd: “Mae hwn yn gynllun gwych. O ystyried yr argyfwng presennol y mae’r diwydiant cludo yn ei wynebu gyda phrinder gyrwyr, dylai mwy o raglenni fel y rhain fod ar gael i helpu unigolion sydd mewn tlodi ariannol.”

Y Cynghorydd Catrin Miles yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ag Atal. Dywedodd: “Mae’n wych gweld sut mae Martin wedi elwa o’r prosiect, sydd gydag amser wedi ei alluogi i sicrhau swydd gyda Snowdon Transport Ltd. Llongyfarchiadau Martin!”

Os hoffech gael gwybod mwy am y prosiect, ffoniwch un o aelodau’r tîm ar 01545 574193.

%d bloggers like this: