03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

CWRDDAIS heddiw â Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda Changhellor Dugaeth Lancaster o Lywodraeth y DU, i drafod y wybodaeth ddiweddaraf am rywogaeth newydd o’r coronafeirws.

Gwyddom bellach fod y rhywogaeth newydd hwn yn llawer mwy heintus ac yn lledaenu’n gyflymach na’r un gwreiddiol.

Y prynhawn yma, soniodd y Prif Weinidog am y patrwm lledaeniad yn Llundain a de ddwyrain Lloegr, sydd wedi’i gysylltu â’r math newydd hwn o coronafeirws.

Mae hyn yn hynod gyson â’r cyflymu yn y broses drosglwyddo yng Nghymru, a’r cyfraddau uchel o achosion a welsom yn yr wythnosau diwethaf. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn awgrymu bod y math newydd hwn yn bodoli ledled Cymru.

Drwy gydol yr argyfwng iechyd cyhoeddus, bu’n rhaid i ni ymateb yn sydyn i’r newidiadau cyflym sydd wedi bod yn nodweddiadol o’r coronafeirws. Heddiw, cafwyd gwybodaeth newydd a bu’n rhaid i ni ymateb yn syth.

Y prynhawn yma, cyfarfu’r Cabinet i drafod y datblygiad newydd hwn yn y pandemig, sy’n peri cryn ofid. Clywsom y cyngor diweddaraf gan ein huwch gynghorwyr meddygol a gwyddonol, gan gynnwys am yr effaith ar ein GIG.

Mae’r sefyllfa’n eithriadol o ddifrifol. Felly, yr ydym wedi dod i’r penderfyniad anodd i gyflwyno ynghynt y cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar, yn unol â’r camau sy’n cael eu gweithredu yn Llundain a de ddwyrain Lloegr.

Daw’r cyfyngiadau newydd i rym o hanner nos heno yn hytrach nag yn ystod cyfnod y Nadolig.

Bydd hyn yn golygu y bydd manwerthu nad yw’n hanfodol, gwasanaethau cyswllt agos, campfeydd, canolfannau hamdden, llety a lletygarwch, yn cau ar ddiwedd masnachu heddiw.

O hanner nos ymlaen, bydd cyfyngiadau aros adre yn dod i rym.

Fe fydd angen i bobl sy’n aros mewn llety gwylie yng Nghymru wneud trefniadau i adael a dychwelyd adref cyn gynted ag y bo modd.

Yn anffodus, mae’n rhaid i ni hefyd edrych eto ar y trefniadau ar gyfer y Nadolig – ni allwn adael pobl yn agored i’r risg ddaw o’r math newydd, mwy ffyrnig hwn o’r coronafeirws.

Felly byddwn yn newid y rheolau presennol sy’n caniatáu i ddwy aelwyd ddod ynghyd i ffurfio swigen Nadolig dros gyfnod o bum niwrnod. Fe gaiff hyn ei ganiatáu ar Ddydd Nadolig yn unig.

Fe fydd aelwyd un person yn cael ymuno ag un aelwyd arall drwy gydol y cyfnod cyfyngiadau rhybudd lefel pedwar.

Er ein bod i gyd am osgoi tarfu pellach ar fusnesau a chynlluniau ar gyfer y Nadolig, ein prif ddyletswydd yw diogelu bywydau yma yng Nghymru

Ddoe, fe gyhoeddom ni £110 miliwn o gymorth pellach i gefnogi busnesau a effeithir gan y cyfyngiadau rhybudd lefel pedwar. Mae hyn yn ogystal â’r Gronfa Cyfyngiadau Busnes a’r gronfa lletygarwch. Fe wnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y cymorth yma ar gael cyn gynted â phosib i’r busnesau sydd ei angen.

Os daw cyllid ychwanegol i Gymru – o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU Ii gefnogi busnesau yn Llundain a de ddwyrain Lloegr yn ystod y cyfnod clo – fe fyddwn yn trosglwyddo hwn.

Mae’r math newydd hwn o’r feirws yn syndod ofnadwy arall yn y pandemig hir-dymor hwn.

Bellach mae gennym bandemig o fewn pandemig, argyfwng o fewn argyfwng.

Mae’n her arall y mae’n rhaid inni ei goresgyn. Ond byddwn yn ei goresgyn gyda’n gilydd.

Byddwn yn parhau i amddiffyn ein hunain a’n hanwyliaid, a gyda’n gilydd, byddwn yn cadw Cymru’n ddiogel.

%d bloggers like this: