04/24/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyhoeddi Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg 2020-2021

MAE Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg Blynyddol ar gyfer 2020-2021 wedi cael ei gyhoeddi yn dilyn cymeradwyaeth mewn cyfarfod diweddar o’r Cabinet.

Dyma’r bumed flwyddyn lawn o roi Safonau’r Gymraeg ar waith yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a chymeradwyodd y Cabinet yr adroddiad a gyflwynwyd yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn rhithiol ddydd Mawrth, 15 Mehefin 2021.

Mae’r adroddiad bellach wedi’i gyhoeddi ac ar gael i’w ddarllen yn llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisiau/iaith-gymraeg/safonau-r-gymraeg/

Ymhlith prif gyflawniadau’r Cyngor yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, mae’r adroddiad yn amlinellu sut y mae’r Awdurdod Lleol wedi llwyddo i arloesi yn unol â Safonau’r Gymraeg, a hynny trwy addasu’n gyflym i argyfwng y Coronafeirws a chreu dulliau cyfathrebu dwyieithog effeithiol. Yn ogystal â hyn, sefydlwyd tudalen Facebook newydd sbon, sydd wedi profi’n boblogaidd yn barod, sef Cardi-iaith sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ac yn cynnig cyfleoedd ac adnoddau i blant, pobl ifanc a rhieni.

Mae’r Cyngor hefyd wedi meithrin ymwybyddiaeth o wasanaethau Cymraeg trwy wasanaeth cyswllt cwsmeriaid Clic gan greu canllawiau Safonau’r Gymraeg a llunio posteri digidol sy’n procio’r cof o ran gofynion y Safonau.

Paratowyd adroddiad ‘Cyfleoedd i Ddefnyddio’r Gymraeg yn Ystod y Cyfnod Clo’ trwy gydweithrediad y Fforwm Dyfodol Dwyieithog a chyhoeddwyd dogfen Terminoleg COVID-19, a ddenodd sylw mawr yn genedlaethol yn ystod yr ymateb cynnar i’r pandemig, sef Terminoleg COVID-19: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/gwybodaeth-ac-adnoddau-ar-gyfer-y-gymuned/

Manteisiwyd hefyd ar y cyfle i gynnal gweithgareddau rhithiol gan gynnwys Diwrnod Shwmae, Dydd Gŵyl Dewi a Diwrnod Hawliau’r Gymraeg, a dathlwyd llwyddiant aelodau o staff y Cyngor yng Ngwobrau Cenedlaethol Cymraeg Gwaith a gynhaliwyd yn ddiweddar: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/newyddion/llwyddiannau-mawr-i-geredigion-yn-y-gwobrau-cymraeg-gwaith-cenedlaethol/

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu cynnydd y Cyngor Sir wrth gyflawni gofynion Safonau’r Gymraeg ar gyfer 2020-2021. Rydym yn falch o’r cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn a aeth heibio ynghyd â’r holl waith a gyflawnwyd yn sgil hynny. Edrychwn ymlaen yn awr at barhau â’n hymrwymiad i’r Safonau er mwyn cynnal, cefnogi a pharhau i wella’r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg ledled ein holl wasanaethau yn ystod 2021-22.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i weithredu gofynion Safonau’r Gymraeg oddi ar 30 Mawrth 2016, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae hefyd yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor.

%d bloggers like this: