03/28/2024

Wales News Online

Local & National News for Wales

Cyhoeddi adroddiadau ymchwilio i lifogydd Storm Dennis

YN dilyn Storm Dennis, mae tri Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Adran 19 ychwanegol wedi’u cyhoeddi gan y Cyngor heddiw, gan ddod â’r cyfanswm i naw. Mae’r adroddiadau diweddaraf yn canolbwyntio ar Hirwaun, Pontypridd a Nantgarw.

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Adran 19) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor, ac yntau’n Awdurdod Llifogydd Arweiniol Lleol, roi adroddiad ffeithiol o’r hyn a ddigwyddodd mewn digwyddiadau llifogydd difrifol. Rhaid i’r adroddiadau yma nodi’r Awdurdodau Rheoli Risg a’r swyddogaethau y mae pob awdurdod wedi’u harfer hyd yma, ac amlinellu’r hyn y maen nhw’n bwriadu ei wneud yn y dyfodol.

I ddechrau, ymchwiliodd y Cyngor i 28 o leoliadau a gafodd eu heffeithio gan Storm Dennis (15–16 Chwefror, 2020), a bydd yn cyhoeddi cyfanswm o 19 o adroddiadau. Mae Adroddiad Trosolwg ar gyfer Rhondda Cynon Taf cyfan wedi’i gyhoeddi (Gorffennaf 2021), yn ogystal ag adroddiadau Adran 19 ar gyfer Pentre (Gorffennaf 2021), Cilfynydd (Medi 2021) a Threherbert (Tachwedd 2021). Yr wythnos ddiwethaf, (25 Ionawr 2022), cafodd adroddiadau eu cyhoeddi ar gyfer Trefforest, Glyn-taf a’r Ddraenen Wen, a Ffynnon Taf.

Mae’r adroddiadau diweddaraf – a gafodd eu cyhoeddi ddydd Llun 31 Ionawr– yn canolbwyntio ar Hirwaun, Pontypridd a Nantgarw. Cafodd pob adroddiad ei lywio gan arolygiadau Carfan Rheoli Perygl Llifogydd RhCT yn y dyddiau ar ôl Storm Dennis, yn ogystal â gwybodaeth gan drigolion, Carfan Iechyd y Cyhoedd RhCT, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Dŵr Cymru ac adroddiadau technegol dan arweiniad ymgynghorwyr.

Hirwaun (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 01)

Arweiniodd Storm Dennis at lifogydd mewn 30 o gartrefi ac eiddo masnachol yn Hirwaun, ac roedd llifogydd sylweddol ar y priffyrdd hefyd. Y prif achos am hyn oedd glannau Afon Cynon yn gorlifo y tu ôl i Gae Felin Parc, gan fynd trwy waliau terfyn preifat ac i mewn i eiddo. Mae mapiau CNC yn nodi bod yr eiddo yma’n wynebu ‘risg uchel’ o lifogydd o’r brif afon, a does dim amddiffynfeydd ffurfiol rhag llifogydd yno.

Want To Advertise Here?

Contact Us Today

We will not send you spam. Our team will be in touch within 24 to 48 hours Mon-Fri (but often much quicker)
Thanks. We will be in touch.

Mae ymchwiliadau hefyd wedi canfod mai llifogydd dŵr wyneb oedd prif ffynhonnell y llifogydd yn ardal RhCT 01. Gan fod cymaint o law wedi disgyn, roedd hyn wedi achosi i ddŵr lifo dros y tir yn sylweddol. Roedd llawer o ffyrdd yn sianeli ar gyfer y dŵr. Ynghyd ag effeithiau llifogydd o brif afonydd, doedd dim modd i’r seilwaith draenio ymdopi â’r dŵr, gan arwain at lifogydd mewn nifer o adeiladau lleol.

Pontypridd (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 11)

Roedd llifogydd mewn o leiaf 158 o adeiladau yn yr ardal yma, gan gynnwys 80 o gartrefi a 78 o adeiladau dibreswyl. Roedd llifogydd sylweddol ar y briffordd hefyd. Daeth ymchwiliadau i’r casgliad mai prif ffynhonnell y llifogydd oedd Afon Taf yn gorlifo ar ôl glaw trwm a chyson. Cofnododd gorsaf fonitro CNC Pontypridd lefelau uchder afonydd bron bedair gwaith eu lefel arferol, gan gyrraedd uchafbwynt o 5.32 metr, sef yr uchaf ers agor yr orsaf yn y 1970au.

Mae mapiau CNC yn dangos bod yr adeiladau a gafodd eu heffeithio yn wynebu ‘risg isel’ o lifogydd o’r brif afon, gan fod amddiffynfeydd ffurfiol rhag llifogydd ar rannau o’r arglawdd dwyreiniol yn Stryd Siôn, a’r arglawdd gorllewinol yng nghanol tref Pontypridd. Serch hynny, mae adeiladau ar Heol Berw yn wynebu ‘risg ganolig’ a does dim amddiffynfeydd ffurfiol rhag llifogydd yno. Yn ôl CNC, gan fod Storm Dennis wedi rhagori ar y tebygolrwydd o lifogydd yn digwydd unwaith bob dau gan mlynedd, y casgliad yw bod dim modd i amddiffynfeydd llifogydd Afon Taf ymdopi â’r glaw, gan eu trechu mewn sawl lleoliad.

Roedd yr ymchwiliadau wedi canfod bod dŵr wyneb yn cronni ar y briffordd hefyd wedi cyfrannu at afonydd yn gorlifo yn yr ardal. Roedd llifogydd dŵr wyneb wedi’u hachosi gan ddwyster y glaw yn ystod Storm Dennis a gwaddodion yr afon yn setlo ar ôl i’r brif afon orlifo. Roedd hyn wedi lleihau gallu’r seilwaith draenio Priffyrdd yn RhCT11.

Nantgarw (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 16)

Yn yr ardal yma, sy’n cynnwys Glan-bad, roedd llifogydd mewn 306 o adeiladau, gan gynnwys 121 o gartrefi a 185 o adeiladau dibreswyl. Roedd llifogydd sylweddol ar y priffyrdd hefyd ledled ardal yr ymchwiliad. Prif ffynhonnell y llifogydd oedd Afon Taf yn gorlifo mewn sawl lleoliad ar ôl glaw trwm a chyson. Cofnododd gorsaf fonitro CNC Glan-bad lefelau uchder afonydd dros bedair gwaith yn uwch na’r arfer, gan gyrraedd uchafbwynt o 5.49 metr. Dyma’r lefel uchaf wedi’i chofnodi ers agor yr orsaf yn 2001.

Mae gwaith mapio CNC yn nodi bod yr adeiladau a gafodd eu heffeithio’n wynebu ‘risg isel’ o lifogydd o brif afonydd, gan fod amddiffynfeydd ffurfiol rhag llifogydd ar hyd yr argloddiau dwyreiniol a gorllewinol. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn darparu amddiffyniad rhag y tebygolrwydd o lifogydd yn digwydd unwaith bob can mlynedd, ond mae’r rhai yng Nglan-bad yn darparu amddiffyniad rhag llifogydd yn digwydd unwaith bob ugain mlynedd, gydag adeiladau lleol yn wynebu ‘risg ganolig’ yn ôl CNC. Yn ôl yr amcangyfrifon, roedd Storm Dennis yn ddigwyddiad unwaith bob dau gan mlynedd o leiaf, a’r casgliad yw bod dim modd i amddiffynfeydd llifogydd ymdopi â’r glaw, gan eu trechu mewn sawl lleoliad.

Yn ogystal â hyn, roedd y cyrsiau dŵr arferol yn gorlifo wedi cyfrannu at lifogydd mewn adeiladau ar Heol Caerdydd, ar ôl i ormod o ddŵr fynd i mewn i gilfach cwlfert sy’n gysylltiedig â chwrs dŵr cyffredin Nantgarw, gan achosi iddi orlenwi. Cafodd dŵr wyneb yn cronni ar y briffordd ei nodi’n brif achos llifogydd mewn dau adeilad preswyl, ac roedd hefyd wedi cyfrannu at y llifogydd o’r afonydd a oedd eisoes wedi digwydd ledled yr ardal ehangach a oedd yn rhan o’r ymchwiliad.

Awdurdodau Rheoli Risg a’u swyddogaethau

Ar gyfer pob un o’r tair ardal, CNC yw’r Awdurdod Rheoli Risg perthnasol ar gyfer rheoli llifogydd o brif afonydd, ac mae’r adroddiadau’n nodi bod CNC wedi cynnal gwaith dadansoddi ymchwiliol i ddeall mecanwaith llifogydd yn ymwneud ag Afon Cynon yn Hirwaun, ac Afon Taf ym Mhontypridd, Nantgarw a Glan-bad. Mae hefyd wedi comisiynu prosiectau modelu i asesu dichonoldeb opsiynau rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol. Yn benodol, mae Astudiaeth Modelu Llifogydd Cynon yn berthnasol i Hirwaun a bydd yn cael ei chwblhau erbyn mis Mawrth 2022. Bydd Prosiect Modelu Taf Isaf yn cwmpasu ardaloedd Pontypridd, Nantgarw a Glan-bad. Mae prosiect mewnol penodol ar gyfer Pontypridd hefyd yn cael ei gynnal.

Mae CNC hefyd wedi llunio argymhellion i fynd i’r afael â meysydd i’w gwella, gan gynnwys ei Wasanaeth Rhybuddion Llifogydd a’i ymateb wrth reoli digwyddiadau.

Y Cyngor yw’r Awdurdod Rheoli Risg ar gyfer llifogydd dŵr wyneb yn y tri lleoliad. Mae pob adroddiad yn manylu ar sut mae’r Cyngor wedi cynnal gwaith arolygu, jetio a glanhau sylweddol i’r seilwaith ac wedi arwain ar ddatblygu Ystafell Reoli i ddarparu ymateb cynhwysfawr yn ystod digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol. Mae’r Cyngor wedi arfer ei bwerau i ymgysylltu â CNC a Dŵr Cymru mewn perthynas â’u cyfrifoldebau yn Awdurdodau Rheoli Risg, gan weithio gyda CNC i ehangu’r prosiect Cadernid Eiddo Rhag Llifogydd dros dro, gan gynnig rhwystrau y mae modd eu hehangu i adeiladau risg uchel.

Mae pob adroddiad yn nodi bod y tywydd yn ystod Storm Dennis yn eithafol, ac mae’n annhebygol y byddai modd atal y llifogydd o dan amgylchiadau tebyg. Mae’r adroddiadau yn ychwanegu bod Awdurdodau Rheoli Risg wedi cyflawni eu swyddogaethau’n foddhaol mewn ymateb i’r llifogydd, ond mae mesurau pellach i wella parodrwydd wedi’u cynnig gan bob Awdurdod Rheoli Risg.

Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o’r Cabinet sy’n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth:

“Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi chwe Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Adran 19 arall yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ar gyfer Hirwaun, Pontypridd, Nantgarw, Trefforest, y Ddraenen Wen a Glyn-taf, a Ffynnon Taf. Mae yna naw adroddiad erbyn hyn, yn ogystal ag Adroddiad Trosolwg, ac maen nhw i gyd ar gael yn llawn ar wefan y Cyngor.

“A ninnau’n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, y Cyngor sy’n gyfrifol am ymchwilio i bob achos o lifogydd, a nodi’r Awdurdodau Rheoli Risg. Mae’r adroddiadau Adran 19 yn ddogfennau cyfreithiol a ffeithiol sy’n amlinellu’r hyn a ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis, yn seiliedig ar dystiolaeth wedi’i chasglu o sawl ffynhonnell. Maen nhw’n adrodd ar ba swyddogaethau y mae’r Awdurdodau Rheoli Risg wedi’u cwblhau, a’r hyn y maen nhw’n bwriadu ei wneud yn y dyfodol. Ar gyfer Hirwaun, Pontypridd a Nantgarw, CNC yw’r Awdurdod Rheoli Risg ar gyfer llifogydd prif afonydd, a’r Cyngor yw’r Awdurdod Rheoli Risg ar gyfer llifogydd dŵr wyneb.

“Mae ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis a chyflawni gwaith lliniaru llifogydd yn ein cymunedau yn flaenoriaeth i’r Cyngor, ac rydyn ni wedi buddsoddi amser, adnoddau a chyllid sylweddol yn y mater dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae dros 50 cilomedr o gyrsiau dŵr tanddaearol wedi’u harolygu ac mae Carfan Rheoli Draenio wedi’i chreu. Rydyn ni wedi agor Canolfan Reoli mewn Argyfwng ac wedi gosod 26 o gamerâu ychwanegol fel bod modd i ni fonitro lleoliadau risg uwch yn well.

“Mae aelwydydd wedi derbyn dros 400 o gitiau offer gwrthsefyll llifogydd, ac mae tua 50 o brosiectau lliniaru llifogydd yn cael eu datblygu ar ben y 50 o brosiectau sydd eisoes wedi’u cyflawni. O ran buddsoddiad, byddwn ni wedi gwario dros £13 miliwn ar liniaru llifogydd erbyn diwedd mis Mawrth 2022, a byddwn ni’n cyflwyno llawer o geisiadau cyllid pellach ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.”

 

%d bloggers like this: